Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oed o'u hamser hamddenol i ymddifyrru nag i ymberffeithio mewn deall, dysg, a rhinwedd. Fe ddylid dangos nad ydyw hir ddifyrrwch ddim yn wir ddifyrrwch; fod difyrrwch yn peidio â bod yn ddifyrrwch pan droer ef yn waith, neu pan ddilyner ef er ei fwyn ei hun; ac na ddylai difyrrwch ar y gorau fod yn ddim amgen nag ymorffwysiad oddi wrth waith ac ymadnewyddiad i waith; mai niweidiol yw pob rhyw ddifyrrwch a baro i ddyn ddiflasu ar ei ddyletswyddau tuag ato'i hun, tuag at ei gyd-ddynion, tuag at Dduw, a thuag at eglwys Dduw. Dangoser y dylai difyrrwch, o ran ei fath a'i fesur, fod yn gyfaddas i alwedigaeth neu orchwylion cyffredin dyn. Er enghraifft, os bydd dyn yn gweithio â'i gorff yn ystod y dydd, ni raid i hwnnw wrth ymarfer corfforol ar ôl cadw noswyl. Os bydd gorfod i lanc gymdeithasu llawer ag anifeiliaid yn y maes, y stabl a'r beudy, y mae'n ofynnol i hwnnw gymdeithasu cryn lawer â dynion yn y tŷ, y neuadd a'r capel, rhag bod arno fwy o arogl anifail nag o arogl dyn. Gan fod y siopwr tra bo yn y siop yn gweled mwy o ddynion nag o lyfrau, fe ddylai hwnnw ar ôl noswylio weled mwy o lyfrau nag o ddynion, rhag i'w ymadroddion yn y cyfarfod athrawon neu'r cyfarfod gweddïo fod yn rhy siopyddol. Pob un nad yw'n darllen llenyddiaeth drom liw dydd, nid oes achos i hwnnw ddarllen llenyddiaeth ysgafn liw nos. Ag un