darn o'r ymennydd y mae'r rhan fwyaf o ddynion yn gweithio wrth ymarfer â'u galwedigaeth; ac am hynny ni all y rheini ymddifyrru'n well na thrwy weithio â rhannau eraill eu hymennydd pa bryd bynnag y caffont hamdden.
Gan nad yw llawer o aelodau'n heglwysi yn ddigon grasol i brisio rhesymau crefyddol, buddiol fyddai dangos iddynt fod y gormod chwarae sy'n y wlad hon yn niweidiol i'w masnach hi, a hynny am ei fod yn dylanwadu'n niweidiol ar ddealltwriaeth ei thrigolion. Yr amser y mae llanciau Prydain yn ei dreulio i chwarae pêl droed, y mae llanciau'r Almaen yn ei brynu i astudio ieithoedd, llenyddiaeth a hanes cenhedloedd eraill; am hynny, hwynt—hwy ydyw'r teithwyr masnachol mwyaf llwyddiannus mewn gwledydd estronol. Ie, hwynt—hwy sy'n cael y lleoedd anrhydeddusaf yn swyddfeydd Prydain ei hun. Pan fydd ar olygydd gwyddoniadur Saesneg eisiau erthyglau gwell na'r cyffredin ar ddiwinyddiaeth ac athroniaeth, rhaid iddo ddanfon amdanynt i'r Almaen, i Holand, ac i'r Yswisdir, am fod dysgedigion y wlad hon wedi colli gormod o'u hamser i chwarae yn Rugby a Rhydychen i allu ymdrin â phynciau dwfn a dyrys. Er y cwbl, y mae gan y Saeson well esgus am fod yn chwaraegar nag sy gan y Cymry, am eu bod hwy yn gyfoethocach.
Er ei bod yn angenrheidiol ambell waith lefaru'n