Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eglur ac yn benodol am ddifyrion a chamarferion eraill yr oes, eto, y peth gorau fel rheol yw dyrchafu meddyliau dynion at yr hyn sydd uchel a phur; eu dwyn i gymdeithas Mab y Dyn, dyn y dynion, a'r gŵr bonheddig perffeithiaf a sangodd y ddaear; eu dwyn i weled gwerth eu heneidiau eu hunain, a gwerth yr ychydig amser a roddwyd iddynt ar y ddaear i ddarparu ar gyfer y . . . [Y diwedd ar goll.]