athrawiaethol, a'r hyn yr wyf yn ei ddweud yn awr ar eiriau, canys ni byddant ymron byth yn myned i gyfarfod gweddi. Dylent, er mwyn cysondeb, naill ai myned iddynt, neu ynteu addef yn agored nad ŷnt yn credu eu bod yn gyfarfodydd anhepgorol. Ond ni synnwn i ddim nad y rhai sy'n esgeuluso heb reswm fyddai'r rhai parotaf i gondemnio'r neb a fyddo'n esgeuluso efo rheswm.
Y mae achos i ofni nad yw'r cyfarfodydd gweddi, megis y cedwir hwynt yn gyffredin, ddim yn gwneud dyn yn ddoethach nac yn fwy defosiynol. Diamau fod peth o'r bai arnom ni sy'n ceisio gweddïo, oherwydd nid ydym yn ddigon cyfarwydd â'r Ysgrythur, nac yn rhagystyried digon pa beth a ddywedom, i allu bod yn adeiladol i'r rhai a fyddo'n gwrando.
Ond y mae bai ar y drefn hefyd. Cwynir yma ac mewn mannau eraill, na fedrir cael gan yr ieuenctid wasanaethu'n gyhoeddus. Ni allaf i mo'u beio, canys yr wyf yn credu mai teimlad crefyddol yn hytrach nag anghrefyddol sy'n rhwystro rhai i weddïo'n gyhoeddus. Y drefn yn y lle hwn ydyw gosod tri i weddio yng nghorff awr o amser, a disgwylir i'r tri hynny weddio yn y set fawr. Bydd ambell un wedi colli meddiant arno'i hun erbyn cyrraedd i'r set fawr, a chael ei hun wyneb yn wyneb â'r gynulleidfa. Ac ar ôl myned yno teimla fod yn rhaid iddo aros yno