Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Mae'r nodiadau hyn yn cyfeirio at Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (dsc 2)
a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 8 Medi 2022
DEDDF DEDDFAU TRETHI CYMRU etc. (PŴER I ADDASU) 2022
NODIADAU ESBONIADOL
CYFLWYNIAD
1.
Mae'r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 ("y Ddeddf") a basiwyd gan Senedd Cymru ar 12 Gorffennaf 2022 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 8 Medi 2022. Fe'u lluniwyd gan Grŵp yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo'r sawl sy'n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â'r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.
CEFNDIR Y DDEDDF A CHRYNODEB OHONI
2.
Mae Senedd Cymru ("y Senedd") wedi pasio tair Deddf sy'n ymwneud â threthu; Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (‘DCRhT'), Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (‘DTTT') a Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (‘DTGT'). Cyfeirir at y tair Deddf hyn gyda'i gilydd fel ‘Deddfau Trethi Cymru' yn y Ddeddf.
3.
Mae'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud newidiadau, drwy reoliadau, i Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu'n briodol gwneud y newidiadau hynny at unrhyw un neu ragor o'r pedwar diben a bennir yn y Ddeddf.
4.
Gellir gwneud y rheoliadau naill ai o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, neu mewn achosion brys yn unig, o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed' (trafodir hyn ymhellach isod).
SYLWEBAETH AR YR ADRANNAU
Adran 1 – Pŵer i ddiwygio Deddfau Trethi Cymru etc.
5.
Mae adran 1(1) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n addasu Deddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir odanynt os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr addasiadau'n angenrheidiol neu'n briodol at unrhyw un neu ragor o'r dibenion a ganlyn neu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor ohonynt—
6.
Is-adran 1(1)(a) – sicrhau na osodir treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi pan fyddai gwneud hynny yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol. Gellid defnyddio'r pŵer yn adran 1 at y diben hwn, er enghraifft, pan ymrwymir i gytundeb masnach neu gytundeb trethiant dwbl â gwlad arall a phan fo gosod treth gwarediadau tirlenwi neu dreth trafodiadau tir mewn achos penodol yn groes i'r cytundeb hwnnw.
1