Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Explanatory Notes - Welsh Tax Acts etc. (Power to Modify) Act 2022 (ASC 2022-2 qp).pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'r nodiadau hyn yn cyfeirio at Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (dsc 2)
a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 8 Medi 2022

7.
Is-adran 1(1)(b) – diogelu rhag osgoi trethi mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir. Efallai y bydd Gweinidogion Cymru am gymryd camau o’r fath pan fônt o’r farn y bydd diwygio’r ddeddfwriaeth yn sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth ynghylch y ffordd y bwriedir ei chymhwyso, yn ogystal ag mewn achosion pan fanteisir ar fwlch. Ni ddiffinnir osgoi trethi yn y Ddeddf ac felly mae’n cymryd ei ystyr naturiol.
8.
Is-adran 1(1)(c) – ymateb i newidiadau a wneir i’r trethi rhagflaenol sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar y symiau a delir gan yr Ysgrifennydd Gwladol i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru. Diffinnir y trethi rhagflaenol yn adran 1(4) fel treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi.
9.
Is-adran 1(1)(d) – ymateb i benderfyniad llys neu dribiwnlys sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar weithrediad Deddfau Trethi Cymru neu reoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny. Ni fydd y penderfyniadau hyn o reidrwydd yn benderfyniadau ynghylch darpariaethau Deddfau Trethi Cymru eu hunain, neu eu rheoliadau cysylltiedig. Gall penderfyniadau sy’n effeithio ar y trethi rhagflaenol neu benderfyniadau ynghylch pwyntiau cyfreithiol cyffredinol hefyd effeithio ar weithrediad Deddfau Trethi Cymru a’u rheoliadau cysylltiedig.
10.
Mae adran 1(2) yn nodi bod cyfyngiadau penodol ar y pŵer cyffredinol a ddarperir i Weinidogion Cymru gan adran 1. Nodir y cyfyngiadau hynny yn adrannau 2(4), (5) a (6) ac fe’u trafodir ymhellach isod.
11.
Mae adrannau 1(3) ac 1(4) yn darparu cyfres o ddiffiniadau.

Adran 2 – Rheoliadau o dan adran 1: atodol

12.
Mae adran 2(1) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 osod treth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir a gosod neu estyn atebolrwydd i gosb.
13.
Mae adran 2(2) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 gael effaith ôl-weithredol, cyn belled ag-
  • nad yw’r rheoliadau yn gosod unrhyw gosb newydd neu’n estyn atebolrwydd i unrhyw gosb bresennol yn ôl-weithredol (adran 2(2)(a));
  • nad yw rheoliadau sy’n creu neu’n cynyddu atebolrwydd i dreth trafodiadau tir neu dreth gwarediadau tirlenwi yn ôl-weithredol yn cael effaith o ddyddiad sy’n gynharach na’r dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad llafar neu ddatganiad ysgrifenedig i’r Senedd yn nodi eu bwriad i wneud rheoliadau o’r fath (adran 2(2)(b));
  • nad yw rheoliadau sy’n lleihau neu’n tynnu yn ôl hawlogaeth i gredyd treth gwarediadau tirlenwi yn ôl-weithredol yn cael effaith o ddyddiad sy’n gynharach na’r dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad llafar neu ddatganiad ysgrifenedig i’r Senedd yn nodi eu bwriad i wneud rheoliadau o’r fath (adran 2(2)(c)).
14.
Mae adran 2(3)(a) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

2