Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Mae'r nodiadau hyn yn cyfeirio at Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (dsc 2)
a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 8 Medi 2022
15.
Mae adran 2(3)(b) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 wneud darpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol etc.
16.
Nid yw adrannau 2(1) i 2(3) yn rhestr gynhwysfawr o’r hyn y caniateir i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 ei wneud.
17.
Mae adran 2(4)(a) yn atal y pŵer yn adran 1 rhag cael ei ddefnyddio i addasu Rhan 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rhan honno. Mae’r darpariaethau hynny’n ymwneud yn bennaf â chreu Awdurdod Cyllid Cymru a’i lywodraethiant.
18.
Mae adran 2(4)(b) ac (c) yn atal y pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1 rhag cael ei ddefnyddio i addasu rheoliadau sy’n pennu cyfraddau a bandiau ar gyfer treth trafodiadau tir neu gyfraddau treth ar gyfer gwarediadau tirlenwi. Mae gan Weinidogion Cymru eisoes y pŵer i addasu’r cyfraddau a’r bandiau treth hynny drwy gyfrwng rheoliadau, sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’.
19.
Mae adran 2(5) yn gwahardd rheoliadau a wneir o dan adran 1 rhag gwneud darpariaeth sy’n ymwneud ag ymchwilio i droseddau.
20.
Mae adran 2(6) yn gwahardd rheoliadau a wneir o dan adran 1 rhag newid unrhyw weithdrefn gan y Senedd ar gyfer gwneud offerynnau statudol o dan Ddeddfau Trethi Cymru. Er enghraifft, os bydd darpariaeth yn Neddfau Trethi Cymru yn darparu bod rhaid i offeryn gael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 addasu’r ddarpariaeth honno fel bod rhaid i’r offeryn gael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’.
21.
Mae adran 2(7) yn darparu nad yw’r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1 yn effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan Weinidogion Cymru eisoes i wneud rheoliadau yn Neddfau Trethi Cymru. Yn yr un modd, nid yw gallu Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau gan ddefnyddio pwerau eraill yn Neddfau Trethi Cymru yn effeithio ar y pŵer yn adran 1.
Adran 3 – Datganiad polisi: rheoliadau o dan adran 1 sy’n cael effaith ôl-weithredol
22.
Mae adran 3(1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad ynghylch eu polisi mewn cysylltiad ag arfer y pŵer i wneud rheoliadau sy’n cael effaith ôl-weithredol.
23.
Mae adran 3(2) yn darparu bod rhaid cyhoeddi’r datganiad cyn diwedd y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.
24.
Mae adran 3(3) yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio eu datganiad polisi. Os gwnânt hynny, rhaid iddynt gyhoeddi’r datganiad diwygiedig hwn.
Adran 4 – Gweithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 1
25.
Mae adran 4(1) yn darparu bod y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 1 yn arferadwy drwy offeryn statudol.
3