Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Explanatory Notes - Welsh Tax Acts etc. (Power to Modify) Act 2022 (ASC 2022-2 qp).pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Mae'r nodiadau hyn yn cyfeirio at Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (dsc 2)
a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 8 Medi 2022

26.
Mae adran 4(2) yn darparu y caniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 1 naill ai o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu, pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod angen eu gwneud ar frys, o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’.
27.
O dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, ni chaniateir gwneud offeryn statudol oni baibod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi.
28.
O dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, caniateir gwneud offeryn statudol a chaniateir iddo ddod i rym cyn iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd. Pan ddefnyddir y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, mae adran 4(4) yn darparu bod rhaid gosod yr offeryn gerbron Senedd Cymru, ac mae adran 4(5) yn darparu bod rhaid i’r Senedd gymeradwyo’r rheoliadau o fewn cyfnod o 60 niwrnod ar y mwyaf[1] er mwyn i’r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn barhau i gael effaith ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben. Mae adran 4(6) yn darparu, pan fo’r Senedd yn pleidleisio ar gynnig i gymeradwyo’r offeryn cyn diwedd y cyfnod o 60 niwrnod ac na chaiff yr offeryn ei gymeradwyo, y bydd y rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y cynhelir y bleidlais. Mae adran 4(7) yn darparu na chaniateir gwneud unrhyw gynnig yn y Senedd i gymeradwyo’r offeryn a wneir o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ (ac felly ni chaiff y Senedd ystyried yr offeryn na phleidleisio arno) hyd nes y bydd 28 o ddiwrnodau[2] wedi mynd heibio o’r dyddiad (ac yn cynnwys y dyddiad) y gwneir yr offeryn.

Adran 5 – Rheoliadau’n peidio â chael effaith: atodol

29.
Mae adran 5 yn nodi’r hyn sy’n digwydd os yw offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 1 yn cael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ ond yn methu â chael cymeradwyaeth y Senedd (a’r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn hwnnw felly’n peidio â chael effaith).
30.
Mae adran 5(2) yn darparu bod unrhyw atebolrwydd, neu atebolrwydd uwch, i dreth trafodiadau tir neu dreth gwarediadau tirlenwi na fyddai wedi codi oni bai am y rheoliadau i’w drin fel pe na bai erioed wedi codi.
31.
Mae adran 5(3) yn darparu bod unrhyw dynnu yn ôl hawlogaeth i gredyd treth, neu leihau hawlogaeth o’r fath (mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi) na fyddai wedi digwydd oni bai am y rheoliadau i’w drin fel pe na bai erioed wedi digwydd.
32.
Mae adran 5(4) yn darparu bod unrhyw atebolrwydd i gosb, neu gynyddu swm cosb, na fyddai wedi digwydd oni bai am y rheoliadau i’w drin fel pe na bai erioed wedi codi.

Nodyn:Smallrefs

4

  1. Nid yw’r cyfnod o 60 niwrnod yn cynnwys unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu na phan fo ar doriad am fwy na 4 diwrnod.
  2. Nid yw’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn cynnwys unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu na phan fo ar doriad am fwy na 4 diwrnod.