Un od oedd Efa, o angelaidd ryw,
O barch i Grist, hi barchai bob dyn byw;
Dyledus anrhydeddai dad a mam,
Gresynai wel'd y Negro yn cael cam:
Daeth Topsi fach, ddu, anfad, hurt, ddiles,
Fel cŵyr toddedig yn ei swynol wres,
Nes oedd yn rhwydd yn derbyn argraff dysg
Ophelia fanol, bellach yn eu mysg.
Ond Efa a glafychodd,
A Thom a ofnodd hyn,
Fe'i gwelai 'n curio rywfodd,
A'i gwedd fel rhosyn gwyn;
Siaradai 'r ddau yn rhyfedd,
A hyny braidd o hyd,
Am bethau o wir sylwedd
O fewn y nefol fyd.
Rhyw noswaith deuai 'r angel
I gyrchu Efa fry;
Ac wylai pawb yn uchel,
Daeth terfysg trwy y tŷ ;
Ond hi ehedodd ymaith,
O fraich, a thŷ ei thad,
I blith seraphiaid perffaith
Yr anweledig wlad.
Ryw yspaid wedi hyn,
St. Clare garuaidd, yntau,
Gyfarfu mewn modd syn,
A damwain droes yn angau;
Gorchuddiodd cwmwl du
Y plâs, a'r gaethglud druan;
A chaled iawn a fu
Eu tynged o hyn allan.