Neidio i'r cynnwys

Tudalen:F'Ewythr Tomos (cerdd).djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Daeth Haley heibio gyda'i gais,
Masnachwr caeth drueiniaid;
Gorfododd Shelby drwy ei drais,
I werthu Tom ddiniwaid.

A Harri bach, ryw blentyn clŵs,
Oedd siriol wrth y pared,
Yn chwareu 'n wirion tua'r drws,
Heb adwaen gŵg caethiwed;
Fe'i gwerthwyd yntau gyda Thom
I'r caethfasnachydd Haley;
—Elisa, 'i fam, â chalon drom,
Ddychrynai am ei Harri.

Eslia gawsai ddygiad da,
A'r priod oedd hi'n ddewis;
Gwr ieuanc, yntau, o ddawn da,
A'i enw oedd George Harris.
Ond "da" oedd hwnw, er ei ddawn,
Nid "dyn," ond "da," i'w feddu,
Yn ol y siarad cas a gawn,
Gan rai sy'n caethfasnachu.

A ffrwyth y lân briodas hon,
Oedd Harri bach, deallwch;
A'i werthu gafodd oddiar fron
Ei anwyl fam, ystyriwch.
Ond gormod peth oedd peth fel hyn,
I 'Lisa ddal heb ochain;
Hi gipiodd Harri o'i gwsg syn,
I ddianc yn y plygain.

A phan ddaeth Haley yno 'n ol,
I gyrchu Tom a Harri;
'R oedd Harri bach ymhell yn nghol
Ei fam, yn ffoi o ddifri';