Hi aeth yn derfysg trwy holl dŷ
A thyddyn poblog Shelby,
A hwyliwyd rhyw ddau gaethwas du,
I'w hela gyda Haley.
Y ddau benodwyd i'r gwaith hir,
A elwid Sam ac Andy;
Hen walch oedd Sam, ac Andy 'n wir,
Oedd lawn o bob direidi.
Yn rhywfodd deallasai 'r ddau,
Mai 'wyllys pur eu meistres,
Oedd i Elisa gael mwynhau
Pob mantais at ei neges.
Ar adeg gymhwys ymlaen nawn,
Fe ffrwynwyd y ceffylau;
Ac ebol Haley wnaed yn iawn,
A phob rhyw gêr o'r gorau;
Ond beth wnaeth Sam yn ddystaw bach,
Ond rhoi tan gyfrwy Haley
Ryw gneuen ffawydd, yn bur iach,
'Pan nad oedd neb yn sylwi.
O barlwr glân Shelby daeth Haley 'n llawn dyn,
Gan ddwrdio'r ddau gaethwas yn wynias ei wŷn;
I fyny 'n ddiaros i'w gyfrwy âg ef,
Ond gyda'i fod yno mor groch oedd ei lef!
Y gneuen ysbigog dan bwysau ei goes,
A frathodd i ystlys yr ebol mewn loes,
Nes gwneyd iddo brancio, a neidio gan iâs,
A thaflu ei farchog ar glwt o dir glâs!
A rhedodd Sam ac Andy,
Ar frys i go'gio 'i godi,
Gan ado bawb ei farch ei hun,
I wylied y dyn Haley.