Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Fel y gwelais Arglwyddes Llanofer.djvu/1

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fel y gwelais Arglwyddes Llanofer.

O Cymru (cylchgrawn) gol O.M.Edwards Cyfrol X 1896; tud 145-146

Y MAE bronfraith yn canu yn nwyfus ar frigyn uchaf ffawydden luniaidd. Y mae ganddo lond ty o blant, a chan bwys helyntion teuluaidd, yn lle ildio i duchan, y mae wedi esgyn i frigyn y goeden dalaf yn y cylch, ac yn chwiban yn herfeiddiol. Gwanwyn ydyw, gyda daear werdd a nefoedd loew.

Y mae telynau yn crogi wrth enw Llanofer, ac wrth gerdded o orsaf Nantyderry at y palasdy yr oedd telynau anweledig yn chwareu cyfeiliant i alawon y gwynt yn y coed, a'r adar yn y llwyni.

Felly o dan ddylanwad swyngyfarodd yr amgylchoedd y daethpwyd megis drwy wlad hud a lledrith i'r pentref, lle yn wir y chwareuid telyn yn y ty oedd a'i ddrws yn agored. Ar ol mynd i mewn drwy ddrws bychan y naill du i'r porth haiarn, ar gyfer y pentref, wele ni ym mhare mawr Llanofer, ac yn ebrwydd heibio i'r Ty Uchaf, lle y ganwyd yr arglwyddes, ac i olwg y palas, yr hwn sydd yn fawr a hardd, ac o adeiladwaith yn dynodi sylwedd a chadernid. Er ei faint, nid yw yn weledig hyd nes mynd yn agos ato, gan ei fod yn sefyll mown pant, ac wedi ei amgylchu gan goed.

Wedi agoshau at y drws, hawdd gwybod fod ystyr llawn i'r geiriau sydd yn argraffedig ar y Porth Mawr sydd yn wynebu ar Abergafenni,—

"Pwy wyt ti, ddyfodwr?
Os cyfaill, croesaw calon i ti:
Os dieithr, lletteugarwch a'th erys:
Os gelyn, addfwynder a'th garchara."

Cymerasom ein lle yn yr ail ddosbarth, ond cawsom nid yn unig y "lletteugarwch" cysylltiedig a'r dosbarth hwnnw, ond y "croesaw addawedig i'r dosbarth cyntaf.

Yr oedd yr arglwyddes wedi pennu ein hystafell wely, ac wedi archi cynneu tân ynddi, ac arferai yr un gofal ac arolygiaeth fanol mewn perthynas a phob ymwelydd. Drannoeth am unarddeg o'r gloch, yr ydym yn cael ein dwyn i ymgydnabod a'r arglwyddes wyneb yn wyneb. Ac ebai hi,—

"Y mae i chwi roesaw i'r ty hwn."

"Diolch i chwi, fy arglwyddes."

"Y mae i chwi roesaw i aros yma heno eto, ac hyd nes y bydd i chwi weled pob peth nad ydych wedi weled."

Yr wyf yn dra diolchgar, ac yn prisio eich croesaw a'ch lletygarwch yn fawr iawn, fy arglwyddes."

Bechan iawn o gorffolaeth ydoedd. Er yn crymu o dan bwys blynyddoedd, yr oedd ganddi wyneb hardd, glandeg, ieuangaidd, cymhesur, a dirychni. Hawdd oedd gweled ei bod wedi bod yn brydferth odiaeth. Yr oedd ei llygaid yn chwilgar, a'i hedrychiad "yn cyrhaeddyd drwodd." Ae er mai het wellt ddu, gron o rau ffurf, yn debyg i'r hyn a welir weithiau gan ambell i hen wraig na all fforddio newid ei hetiau gyda'r ffasiwn, ac mai clogyn du hirllaes oedd amdani, a scidie bach cefnagored Cymreig, yr oedd ei threm yn awdurdodol a'i hosgo yn bendefigaidd.

Hawdd, ynte, ar ol derbyniad mor serchog a grasol, oedd cydymffurfio, wrth ymadael, â'r hyn a eiddunir yn y geiriau canlynol ag sydd yn ysgrifenedig ar borth arall,—

"Ymadawydd hynaws,
Gad dy fendith ar dy ol, a bendithier dithau;
Iechyd a hawddfyd it' ar dy daith,
A dedwydd ddychweliad."

Er cymaint y llawnder a'r cyfoeth sydd yn y fangre, gellid gweled mai rheol y ty yw yr hyn a ddysg yr englyn canlynol gan Tegid, sydd wedi ei argraffu uwchben y tân yn neuadd giniaw y gwasanaethwyr.

ENGLYN Y BUELIN.

"Gwastraff—eisieu, drwg ystryw—gwarth a
Ac wrth ddwyn gwarth—distryw;
Da i bawb cynildeb yw
A thad i gyfoeth ydyw."

"Corn bual Eisteddfod Caerdyf, Awst 20fed, 1834."

Yr oedd llawer o arbenigion rhagorol yr arglwyddes yn taflu eu cysgod ar y lluaws sydd yn ei gwasanaeth, heb eithrio y nodweddion cenedlgarol hynny a gysylltir â'i henw drwy Gymru oll.

Ni ennwyd neb yn Israel gynt, drwy gynorthwy ysbryd proffwydoliaeth, gyda mwy o addasder nag yr urddwyd Arglwyddes Llanofer yn "Gwenynen Gwent." Er ei bod y pryd hwnnw wedi gadael 85 o flynyddoedd ar ol yr oedd mor ddyfal a diwyd yn ei mhedr a'i mhanylwch gyda llywodraethu ei hugeiniau gwasanaethwyr yn ac o gylch Llanofer, a chydag arolygiaeth ei mheddiannau helaeth ymhell ac agos, ag y bu erioed. Cerddai ei hewyllys yn rheol gyda golwg ar bawb a phopeth a berthynai iddi; ac nid oedd a ddywedai y byddai dim mewn cysylltiad a'r pethau distadlaf, fel y pethau pwysicaf, heb iddi hi ei orchymyn. Yr oedd