gysgod ambell ddraenen, gan ganu eu hanthem dragywydd, ddydd a nos, yng nghanol distawrwydd y mynydd. Rhaid yfed y dyfroedd oer grisialaidd unwaith eto. Rhyfedd yw tarddell afon. Y mae pob afon yn dyfod allan odditan orseddfainc Duw. Mae'r fan hon yn gysegr i mi. Dyma un o gysegr-leoedd bore oes, ac erys felly o hyd. Wedi brwydrau ac amheuaeth, dim ond dod nôl, erys hedd a ffydd a Duw yma o hyd.
O'r banc uwchben y Ffrydiau, dacw dwyn y Fan yn y golwg yn glir. Yr oedd hi yn awr yn unarddeg o'r gloch, a'r haul yn gynnes.
"Y mae gennym waith tua dwy awr a hanner eto," meddwn i.
Na," meddai'r Meddyg, "fe fedrwn ei gwneud yn hawdd mewn dwy awr
"Rwy'n credu mai'r peth gorau yn awr yw treulio awr neu ddwy yma, yna myned yn ôl gyda'r afon yn raddol i weled y pyllau a'r creigiau, a gadael Llyn y Fan i fod am heddiw," meddai'r Bardd.
"Na," meddai'r Meddyg, "ymlaen â ni, Llyn y Fan am dani! Ond 'rown i'n meddwl y buasech chwi'n blino. Dyma fi wedi eich curo cyn hanner dydd."
yn
O'r gorau, ymlaen â ni," meddwn innau. Teithiasom am awr ar draws mân rigolau a thwmpathau, drwy gernydd o gerrig, ac weithiau frwyn a rhedyn. Dilynasom yr afon gorau medrem, hyd oni ddaethom hyd yn Aber Deudwrch. Cyferfydd dwy gornant yma, mewn pantle teg, a Thwrch y gelwir y naill a'r llall. Canys gadawai'r Twrch Trwyth ei ôl drwm ar yr unigeddau hyn. Y ddwy gornant hyn yw gwir ddechrau yr afon, ac nid tarddell fawr "Y Ffrytie." Erbyn hyn aethai yn wres enbyd, ac nid oeddem wedi mwynhau nemor ddim awel oddiar pan adawsom "Y Ffrytie". Golwg welw a diflas braidd oedd ar y Meddyg erbyn hyn, a dechreuodd gyfaddef ei fod mewn poen pen a theimlad diflas yn ei ystumog ymron fel dechrau dolur y môr. Eisteddasom wrth ffrydli fechan fain, i fwyta. Methodd ef wneud dim â'i fwyd, tra y bwyteais i yn awchus