iawn. Dechreuodd athronyddu, yn ôl ei arfer, rywbeth tebig i hyn: "Yr ydych chwi yn ysgafnach na mi i gerdded mynydd, yr ydych o ran ffigiwr yn ateb i'r dim i'r gwaith; peth arall, yr wyf i wedi arfer cerdded palmant y dref am gynifer o flynyddoedd, fel y mae cerdded dros y twmpathau yn fy mlino, drwy roddi gormod o waith i ewynnau sydd wedi bod yn segur am flynyddoedd. . . Ddylaswn i ddim yfed y llaeth yn nhŷ eich mam, chwychwi oedd iawn wrth yfed tê. Mae'r llaeth yn pwyso arnaf er's dros awr. Cylla tref sydd gennyf i, ac nid cylla gwlad. Yr wyf wedi byw mor hir yn y dref, ac yn bwyta bwyd tref o hyd, fel mai cylla tref sydd gennyf erbyn hyn.'
"Gwell i ni droi 'nôl yn araf yn awr," meddwn innau, ac fe awn 'nôl dros gefn y mynydd, ac nid gyda'r afon, er mwyn cael mwy o awel".
"Na," meddai yntau, dim troi 'nôl heb weled Llyn y Fan, faint o ffordd sydd eto:
Yr ydym yn awr ar waelod y Fan, ac y mae o'n blaen waith awr a hanner o ddringo caled.'
Wel, yn awr am dani.'
Ail gychwynwyd. Nid oedd tŷ na bwthyn bugail yn awr o fewn milltiroedd i ni, a'r unigedd yn gyfareddol felys, a'r haf yn gloddesta yng nghanol y mynydd heb neb i'w wahardd, na'i anafu.
Cytunasom i ganmol yr unigedd a distawrwydd y mynydd. Ar hyn, dacw un o fugeiliaid Llanddeusant yn dyfod i'r golwg ar gefn ei geffyl ar un o'r llechweddau, â'i gŵn defaid gydag ef. "Wel" meddai'r Meddyg, "dyma'r dyn dedwyddaf yn y byd, gall hwnyna chwerthin yn iachus am ben miloedd y cymoedd a'r dref". Gall yn aml' meddwn innau, ond cofiwch y blinir yntau yn aml, er ei fod ar gefn ei geffyl ".
Pa beth a all fod yn ei flino, mewn lle fel hyn?
"Defaid colledig.'
Safodd y Meddyg yn fud am beth amser, ac meddai: Ie, wel, dyna ofid y canrifoedd, mewn gwlad a thref." Yn araf a llesg y dringem.