Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhaid oedd amgylchynu'r graig am bellter cyn gallu myned at y llyn i ymofyn dŵr. Er y cofiaf fyned i lawr drwyddi mewn rhigol pan yn llanc wedi bod yn helfa'r cadno. Ond ni allwn fentro yn awr.

Nid oedd ffynnon hyd y gwyddwn i o fewn milltir neu ddwy. Gorffwyswch yn llonydd hollol am hanner awr," meddwn i, gan droi yn feddyg am y tro. Gosodais ei ben yn esmwyth ar fy arffed, ac yn fuan, ymlonyddodd a chysgodd am dros hanner awr. Agorodd ei lygaid yn ddireidus braidd. Rwy'n well," meddai. Gadewch i ni sefyll munud ar fin y graig." Ond dim brwdfrydedd.

Rhaid meddwl am gychwyn yn ôl yn fuan yn awr meddwn i. "Y mae hi yn ymyl tri o'r gloch, ac y mae cryn orchwyl gennym i ddal y trên wyth yn Gwŷs neu Gwmllynfell ".

Y mae yn amhosibl i mi gerdded yn ôl drwy'r cwm poeth yna, gyda glan yr afon" meddai yntau. "Pa beth a wnawn ynteu, rhaid i ni dreio mynd yn ôl"Y mae cerdded yn ôl yn amhosibl i mi." Rhoddodd hyn gyfle i mi, i ddweud mai myfi oedd wedi concro fel cerddwr, ond aethai yr amgylchiadau yn rhy ddifrifol i sôn am gystadlu, a chellwair.

Os nad ydych am ddyfod yn ôl, gwell yw myned i lawr i un o'r ffermydd hyn a gofyn am lety noson i chwi, a chwi fyddwch fel aderyn bore yfory ".

"Ond pa fodd y gallaf gerdded i lawr:"

"Rhaid i mi eich cario! meddwn i."

Daeth rhywbeth tebig i wên dros ei wyneb. Cerddasom dros frig y graig tua'r aswy, ac i lawr gyda'r tro, i'r llechwedd, ond teimlai'r Meddyg yn dra blinedig a diffygiol.

Gadewch i mi eich cario meddwn innau drachefn. A dyna a fu yn llythrennol. Heb i mi ymhelaethu dim yn y fan yma. Daeth ar fy nghefn, a'i ddwylaw dros fy ysgwyddau, a chariais ef i lawr am gryn bellter; weithiau yr oedd ei draed yn llusgo'r llawr, a rhaid oedd i minnau gael ambell spel. Daeth hwyl chwerthin arnom gan mor