ddigrif yr olygfa. Ef yn dalach ac yn drymach na mi. Minnau yn tuchan ac yn chwysu; yna spel a chwerthin. Dan y driniaeth drwsgl hon, dechreuodd wella. Daeth i sefyll yn fwy cadarn ar ei draed, ac i gerdded tuag i lawr yn weddol rwydd.
Cyraeddasom glwyd y mynydd, ac yr oedd nifer o ddynion gerllaw yn gweithio ar y gwair. A'n pwys ar glwyd y mynydd bu cynhadledd bwysig cyd-rhyngom, a phenderfynwyd mai'r peth gorau i mi oedd myned yn ôl dros y mynydd tua'r Ddôl Gam, rhag iddynt dybio ein bod ar goll, ac i fintai ddyfod ar ymchwil amdanom gyda'r dydd. Ac i'r Meddyg yntau fyned at y gweithwyr ar y cae, a cheisio ceffyl neu gerbyd i fyned i Langadog i ddal y trên olaf, er mwyn iddo yntau gyrraedd adref. Yr oedd ganddo ddigon o arian yn ei logell i dalu am gerbyd ac am bryd neu ddau o fwyd. Tua naw o'r gloch oedd y trên yn Llangadog, ac yr oedd hi yn awr yn bedwar. A minnau eisiau dal y trên wyth yn Gwŷs, heb obaith am geffyl na cherbyd.
Nid oedd ef wedi bwyta fawr o'i fwyd yn ystod y dydd, a minnau wedi bwyta'r cwbl a oedd gennyf.
Rhoddodd ef ei barsel bwyd i mi, i'm nerthu ar y mynydd —bara menyn, wyau, sandwich, etc.
Barnasom ein bod yn gwneud y peth doethaf, ac yno yr ymadawyd. Wedi i mi ddringo ychydig i'r llechwedd, edrychais yn ôl a gwelais ef yn ymlwybro'n hamddenol gydag un o'r dynion i'r ffermdy gerllaw.
"Dyna fe yn ddiogel ymhlith dynion unwaith eto," meddwn i, gan osod fy nhraed yn y tir i groesi'r mynydd tuag adref. Gadewais y Fan ar y chwith, ac ni cheisiais ddisgyn at afon Twrch. Cedwais ar y dde gan ddyfod allan i lechwedd y Garreg Las—a thynnu tua Blaen Pen yr Helyg a thros y Garn, a'r Twyn Du, ac yr oeddwn yn y Ddol Gam yn fuan wedi saith. Cwpanaid o dê eto, a dal y trên wyth yng Nghwmllynfell, ac adref i fethu cysgu gan flinder!
Beth am y Meddyg druan?