IV
OBERAMMERGAU
DEUTHUM i a'm cyfeillion i'r dref uchod, fin nos, Awst 26, gogyfer â gweled Drama'r Dioddef (Passion Play).
Treflan gymharol fechan yw Oberammergau, yng nghysgodion Alpau Bavaria. Wrth fynd ohonom am dro gyda'r hwyr, gwelwn yma rai tai godidog, ac ambell westy eang. Y brif heol yn droeog, a mân-heolydd a llwybrau yn troi allan ohoni i faes a mynydd. Y mae heno yn llawn iawn, ymron fel un o drefi Cymru y nos cyn yr Eisteddfod Genedlaethol. Torfeydd yn cerdded yn ôl ac ymlaen, a'r gerddi o flaen y gwestai yn orlawn, yn ôl dull y Cyfandir, a phawb yn foddhaus a siriol. Daw trên ar ôl trên i mewn, a moduriaid a buses, gan fwrw eu torfeydd i'r ystrydoedd. Dyma fus o Munich, a modurwyr o Sir Fôn! O'r braidd na ddisgyn cysgod y Dwyrain yma y bobl a'u gwallt yn llacs ar eu hysgwyddau—hen ac ieuainc—a'r symud hamddenol a'r sirioldeb syml. Disgyn hud y mynyddoedd ar ein hysbryd, ac wele Groes unig ar y graig uwchben y dref, yn fath o arwyddair bywyd trigolion y dreflan hon. Llawn iawn yw'r brif ystryd erbyn deg o'r gloch, heb ddim rhialtwch ffôl; a theimlwn fel pe bae pawb yn gofyn yn dawel: "Pa beth a fydd yfory? Daeth bore Mercher, Awst 27, yn fore perffaith parthed hin. Dim cwmwl yn y ffurfafen, a'r glesni dwfn yn y nef, ac ar faes a ffrwd, ymron a throi calon i ormod mwynhad, nes peri llesmair pruddglwyfus. Cofiwn eiriau'r Salmydd ar fore perffaith fel hwn: "Dyma'r dydd a wnaeth yr Arglwydd"
Cyrchai'r miloedd i'r pafiliwn, sydd yng nghongl y dref, ychydig o'r neilltu o'r brif ffordd. Erbyn cyrraedd yno, hawdd gweled nad i Eisteddfod y daethom. Wrth gerdded