i'r pafiliwn, a bwrw golwg yno dros y dorf, tebycach yw hi i gynulleidfa Cymanfa, nag i dorf Eisteddfod. Nid difyrrwch Eisteddfod sydd o gwmpas yr adeilad, eithr tawelwch a dwyster addoliad yn hytrach. Oedfa bore'r Sasiwn yw hi ym Mhafiliwn Caernarfon.
Dyma ni yn y sedd, yn lled agos i'r llwyfan, ac ar ei gyfer yn hollol. Llawn,—gorlawn—yw'r Neuadd helaeth (sy'n dal meddir tua phum neu saith mil), erbyn amser dechrau ac amlwg yw bod yn y gynulleidfa amrywiaeth mawr o bob llwyth, iaith a chenedl.
Ceisiaf roddi darlun byr o'r gweithrediadau ar y llwyfan ac yna rai o argraffiadau'r gwaith ar fy meddwl. Cymerwn yn gyntaf fraslun o'r gwaith yr eir drwyddo. Dechreuir i'r funud am wyth o'r gloch y bore, ac ni welais i neb diweddariaid yn aflonyddu'r oedfa. Am wyth o'r gloch, daw'r côr i'r llwyfan, gan ddyfod i mewn o'r ddwy ochr, a chyfarfod â'i gilydd ar y canol. Safant yn un rhes ar ffrynt y llwyfan yn unwedd parthed gwisg, a phob un â'i wallt yn llaes—nid gwallt celfyddydol, ond eu gwallt naturiol. Côr yn bump a deugain mewn nifer—ac ar y llwyfan agosaf at y gynulleidfa, ac y mae y rhan hon o'r adeilad heb dô uwch ei ben. Disgyn pelydrau'r haul a glesni'r ffurfafen ar eu gwisg. Cenir prolôg gan un o'r aelodau, a chenir cytgan; yna cyfodir y dorau o'r tu cefn iddynt, a daw llen lâs, unlliw'r ffurfafen i'r golwg, ac agorir honno—codi'r ddôr ac agor y llen, a daw darlun i'r golwg ar y llwyfan bellaf,—Y Troad allan o Eden. Gogyfer a gweled y darlun mae'r côr wedi cerdded yn araf, dan ganu, tuag yn ôl, a thorri yn ddwy ran, un bob ochr i lwyfan y darluniau. Yna ceir darlun o addoli'r Groes. Gwelir croes ar fryn, a nifer ar eu gliniau yn plygu iddi. Tynnir y llen at ei gilydd, a daw'r côr yn ôl i orffen eu cytgan i ffrynt y llwyfan. Yna cerddant yn hamddenol, yn ddau a dau, yn ôl i'w hystafelloedd.
Cyn gynted ag yr â yr olaf o'r côr o'r llwyfan, egyr y llen, a daw Iesu i'r golwg, gyda'i ddisgyblion, ac ynghanol gorfoledd y bobl. A i'r Deml, â'i wedd yn llym. Gwelir