Ef yn cynhyrfu yn yr olwg ar bethau yno. Sieryd yn chwerw, pletha fflangell, dechreua ddymchwel y byrddau a thorri'r treslau—ched y colomennod allan i'r awyr lâs—arweinir defaid dros y llwyfan gan y marsiandwyr. Saif yntau yn herfeiddiol, ac nid oes neb yn meiddio Ei wrthwynebu. Cyffry hyn lid yr arweinwyr crefyddol a'r marsiandwyr, ac ymgynghorant â'i gilydd pa fodd i'w ddifetha. Dyna'n fyr, yr Act gyntaf. Yr oedd iddi bedair' golygfa', ond ni thynnid y llen ynghyd cyd-rhyngddynt. Felly hefyd am bob un o'r actau, ni thynnid y llen rhwng y gwahanol olygfeydd". Rhaid oedd gwylio'n fanwl eu gwaith yn symud o un olygfa' i'r llall. Rhwng yr actau yn unig y tynnid y llen.
Yn union gyda bod yr Act gyntaf trosodd, a'r llen yn cau, deuai'r côr i'r llwyfan i ddechrau yr ail. Yna prolôg a chytgan a'r côr yn symud yn ôl, yn rhannu yn ddwy ran, a darlun yn dyfod i'r golwg—Meibion Iacob yn cynllunio i ddifetha Ioseff. Yna dyfod yn ôl i'r ffrynt i orffen y cytgan, ac yn troi allan bob ochr, a'r ddrama yn mynd yn ei blaen. Y Sanhedrim, Caiaffas ac Annas, a'r henuriaid yn ymgynghori â'i gilydd pa fodd i ddifetha Iesu. Penderfynu fod yn rhaid Ei ladd. Yna dilynir hanes Iesu lled fanwl, gan gadw yn agos iawn at yr Efengylau, gyda'r côr a'r darlun yn llanw'r bwlch rhwng pob act. Dangosir Iesu ym Methania, yn nhŷ Simon: Mair yn torri'r blwch enaint —yn golchi Ei draed, a'u "sychu â gwallt ei phen". Yn marchog i Ierwsalem—Iwdas yn cytuno â'r Iddewon i'w fradychu, y Swper, yr Ardd, y Weddi a'r disgyblion yn cysgu; dyfodiad Iwdas a'r fyddin, cusan Iwdas, y llysoedd, Annas, Caiaffas, Peilat, Herod; Caiaphas a Pheilat drachefn, y fflangellu a'r coroni â drain. Cynulliad mawr o'r bobl yn gwaeddi am Barabas a chroeshoelio'r Iesu ". Cario'r Groes; Golgotha; disgyn oddiar y Groes; y Claddu a'r Atgyfodiad. Dilynir holl hanes y Dioddef gyda manylder mawr, a gorffennir gyda'r Esgyniad, a'r Crist yn y Goleuni yn wrthrych addoliad, a'r côr yn canu Haleliwia. Ac y mae hi erbyn hyn yn chwech o'r gloch yr hwyr. Fel y