Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

orlawn o luniau, ac i'r Iesu gael ei dynnu i lawr i lefelau anianol a chnawdol. Ofnwn y syniad o edrych ar Iesu yn cael Ei actio! Mae'r hanes mor annwyl a chysegredig gennym, fel yr ofnwn iddo gael ei sarnu gan actio proffesedig; ac i'r anianol fyned yn drech na'r ysbrydol. Ond y mae yma ryw ddylanwadau yn gweithio sydd yn ein diogelu rhag y perigl hwn. Awyrgylch gysegredig sydd i'r adeilad a'r gynulleidfa. Gwna pawb eu gwaith yn weddus. Disgyn dwyster mawr ar y dorf ar rai adegau, nes llanw'r lle â dylanwadau oedfa grefyddol. I mi, erbyn dyfod o honom i derfyn y dydd, nid theater sydd yma, ond oedfa—ac oedfa fawr—a'r Iesu yn amlwg y pennaf un, a phawb yn Ei garu.

Diau y diogelir yr awyrgylch grefyddol yn un peth gan draddodiad cysegredig; canys y mae gwreiddiau Drama'r Dioddef yn ôl ymhell yn ffydd syml y tadau. Cofir yr hanes ddyfod pla dinistriol i'r fro hon yn y flwyddyn 1632 —dri chan mlynedd yn ôl. Gwnai'r pla ddifrod mawr, ac addunedodd y trigolion eu bod yn mynd i goffa dioddefiadau Iesu Grist—a pharhau i wneud hynny. Aed drwy ffurf gyntefig ar y Ddrama sydd ganddynt heddiw. Ac o'r diwrnod hwnnw allan ni bu neb farw o'r pla. Diau fod ganddynt ryw ffurf ar Ddrama'r Dioddef cyn hyn, a'u bod wedi esgeuluso cadw'r ddefod, fel mai ail-godi hen draddodiad crefyddol a wnaent wrth ei chynnal adeg y pla. Addunedasant i'w chynnal bob deng mlynedd o'r adeg honno ymlaen. A gwnaed hynny gydag ychydig eithriadau ar adeg rhyfeloedd. Ceidw'r bobl hyn eu traddodiad crefyddol cysegredig, a ffyddlon ydynt i lw eu tadau. Teimlant rwymedigaeth i Dduw a dyn i wneud y gwaith, a chadwant at yr un ffydd syml ag oedd gan eu tadau pan yn ail-godi'r gwaith. Diau fod a fynno hyn i raddau â diogelu awyrgylch grefyddol y cyfarfodydd.

Nid oes llawer o ddiben mewn amryw o'r darluniauy tablôs; er eu bod yn ddarluniau rhagorol a drudfawr, ond tueddant at ormod cywreinrwydd a show, a thrwy hynny fateroli'r gwaith. Nid yw'r darluniau o'r pech-