aberth, tywallt gwaed y mynn, o ddim cymorth i esbonio'r Groes,—na Joab yn lladd Amasa, nac Adda druan a'i ddwy ferch yn tynnu'r aradr bren! Tynnu oddiwrth ogoniant y gwaith y mae amryw o'r darluniau hyn, a thueddant at ysgafnder. Ceisir gwthio yr Hen Destament megis dolennau i mewn rhwng digwyddiadau'r Testament Newydd. Ond i lawer nid yw'r ddolen yn gafael yn briodol, fel y mae perigl i hyn i anafu'r cyfanwaith, ac nid ei berffeithio.
Gydag eithrio'r darluniau, dilynir yr Efengylau yn fanwl, a daw dau beth yn amlwg iawn i'r golwg yn yr Iesu.
(1) Ei lymder. Sieryd yn llym â'r disgyblion, ac â'r gwragedd, ac wrth gwrs, ag halogwyr y Deml. Disgwyliwn Ei gael yn addfwynach gyda'i gyfeillion, eithr llym iawn. ydyw. Rhaid cofio fod yr elfen hon yn yr Efengylau—
"Efe a geryddodd Ei ddisgyblion". Felly'n gyson, llym iawn ydyw. Ac yn yr Ardd trech yw Ei drem a'i air na'r fyddin—syrth y milwyr—ni all neb Ei ddal. Cymeriad cryf aruthr yw. Yna
(2) Ei Waith yn ei roddi Ei hun i fyny. Rhydd y gŵr llym, nerthol, Ei hun i fyny yn llwyr. Try yn ddiymadferth ymron, fel ar unwaith. Ni chais Ei amddiffyn Ei hun mwyach. Daw'n addfwyn fel Oen. Derbyn bob gwawd a dirmyg—a phob dioddef, megis heb sylwi. O'r braidd nad yw yn croesawu dioddefaint. Cefais yma esboniad byw ar "ddiystyru gwaradwydd". Edrych Efe gyda diystyrwch hamddenol ar bob dioddefaint. Dyma un fannau cryfaf y Ddrama i mi:—y Gŵr cryf, na allasai neb Ei gyffwrdd, yn Ei roddi Ei hun mor llwyr, yn destun gwawd mawr a bach, heb sylwi dim, yn cerdded yn ddwys hamddenol drwy'r cyfan heb yngan gair.
Daw pelydrau datguddiad o'r Anfeidrol gariad atom yma. O'r braidd nad ydynt yn llithro dros y dorf gyda phelydrau haul yr hwyr. Ac ni all y galon ystyriol lai na holi, ai drwy ddioddefaint, rywbeth yn debyg i'r hyn a bortreadir yma, y cafwyd y mynegiad uchaf o gariad Duw? Ai'r amynedd ofnadwy hwn, a dewis dioddef y dirmyg a'r