Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

poenau hyn, a'r distawrwydd gwirfoddol llethol hwn? Ai hyn fu'r cyfrwng pennaf i ddatguddio eithaf y cariad Dwyfol at ddyn a datguddio'r gorau a'r dyfnaf sydd yng nghalon dyn yr un pryd: Rhaid aros i feddwl eto.

Rhyfeddod a bery'n ddiddarfod
Yw'r ffordd a gymerodd Efe."


I mi, tueddir i or-wneud dioddefiadau corfforol yr Arglwydd Iesu—cymer y 'treial' a'r 'cario'r groes' amser maith, ac erys y tair croes yn hir iawn gerbron y gynulleidfa. I'r neb sydd wedi ffurfio iddo'i hun Grist ysbrydol, a dysgu garu ac ufuddhau iddo, o'r braidd na ddymunai dynnu'r llen yn gynt dros y dioddefiadau corfforol. Ofnwn dynnu'r Crist i lawr i lefel dioddefiadau materol, a hynny yn unig. Ond rhaid cofio mai Catholiciaid yw'r bobl hyn, a'r pwys a roddant ar y dioddef allanol; a chofio hefyd y rhoir lle mawr iddynt yn yr Efengylau, a daw apêl foesol ac ysbrydol y Groes drwyddynt at filoedd o galonnau.

Dyma yn bennaf a deimlais i—Apel y Groes, ac apêl y Groes yn cyffwrdd pawb. Er beirniadu llawer symudiad, a methu cydsynied â llawer o'r ffurfiau—ceir yma apêl y Groes at ddyn—yn llethol o effeithiol ar ambell adeg. Y mae cynrychiolwyr llawer gwlad, llwyth, iaith a chenedl yn y gynulleidfa; pob amrywiaeth oedran, safleoedd a syniadau, a daw apêl y groes yma at bawb, ac amlwg yw ei bod yn ei ffordd ei hun yn cyffwrdd pawb gan wneud pawb yn un. Ellmyneg yw iaith y Côr, a'r siaradwyr, ond daw apêl y Groes at bob un yn ei iaith ei hun. Un o'r pethau amlycaf yma yw apêl y Groes yn gafael yng nghalon dyn, ar wahân i'w syniadau a'i gredo, a'i iaith a'i enwad! Diau y collir llawer ar ryw fath o effaith wrth fethu ohonom a deall yr iaith; ond tyrr apêl y Groes drwy'r anhawster hwn, a mynn gyrraedd calon. Pa beth a gawsoch yn Oberammergau? Ein hateb yw, apêl y Groes yn gafael yn nyfnder calon dyn. "The Universal appeal of the Cross!"