Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn Sul o ganu mawl—dylem ganu mwy, ond dylai fod anerchiad byr efengylaidd yn yr oedfaon hyn. Credaf hefyd mewn ambell gyfarfod gweddi i'r eglwys i gyd, ar fore neu nos Sul, a'r gweinidog adref. Ond am lu o bethau ereill dylid arafu cyn eu gosod i lanw lle'r bregeth, er i'r pethau hynny sicrhau mwy o gynulleidfa am dro,—nid tynnu crowd cywrain am dro yw llwyddiant crefyddol.

Pâr hyn i mi ofyn,—a edrychir ar y pregethwr fel dyn o ddifrif? Ai olwyn mewn peiriant yw'r gweinidog? Da ei gael i weinyddu mewn angladd a bedydd, da ei gael i arwyddo papurau—llanw forms ac ysgrifennu testimonials—da ei gael i yrru llu o lythyrau at aelodau gwahanol fyrddau a chyfeillion, er mwyn sicrhau swydd neilltuol i un o'i bobl. Da ei gael i fyned drwy ffurf o wasanaeth ar y Sul, a chydnabyddir fod ganddo ddylanwad mewn rhyw gylchoedd, ond a edrychir arno yn ei waith pennaf fel dyn o ddifrif?

Clywais am ferch fechan yn dweud am ei thad, yr hwn oedd yn grefyddol iawn ar y Sul, "a certain mood he has on Sunday, he will be all right again tomorrow". Ai ni ein hunain ydym ar y Sul, ynteu ffugio bod yn rhywbeth neilltuol? Ai ymgodi i ryw ymddangosiad ffugiol yr ydym ar y Sul, yna disgyn o'r cwmwl hwnnw yn ôl i ni ein hunain erbyn bore Llun? Dywed yr Athro J. Morgan Jones, yn ei lyfr "The New Testament in modern Education" fel hyn:—"The fundamental honesty and integrity of the ordinary preacher is widely and seriously doubted. Thorough intellectual integrity in the pulpit is a matter for surprise and bewilderment". Ai gwir y gosodiad yr amheuir ein gonestrwydd? Os felly, nid rhyfedd fod yr Eglwysi yn llwyd eu gwedd, a'u cynulleidfaoedd yn llesg a digalon. Canys ni cheir bywyd a chryfder heb wirionedd a gonestrwydd. A ydym yn cyhoeddi pethau nad ydym yn eu credu? Ai perfformio a wnawn fel yr adroddwr neu'r actiwr yn y chwareudy? A hynny heb ddysgu'r grefft megis hwynt hwy. Mewn gair, a ydym o ddifrif: Neu, a oes gennym neges? Os oes neges gennym, y mae gennym reswm digonol dros barhau i sefyll i fyny, a'i dweud pe ond wrth y nifer lleiaf, a llefaru