Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'i gwthio ar y byd. Ac y mae cylchoedd euraidd ymlaen, a'r gwyliedydd yn cyhoeddi "Daeth y bore", a bodolaeth dyn yn dod yn y diwedd yn beth mor ogoneddus a bodolaeth Duw. Tystia'r dyfnaf a'r gorau ynom fod y pethau hyn. Tystia profiad crefyddol yr oesau yr un peth. Dyna yw'r Beibl—tystiolaeth oesau o brofiadau cynyddol fod Duw, Crist, Enaid a Bywyd. Awn ati i'w cyhoeddi yn hyderus a chalonnog. Tra y sonia y llenor am lenyddiaeth, sonied y pregethwr am santeiddrwydd. Tra y sonia'r gwyddonydd am ryfeddodau'r cread, sonied y pregethwr am Dduw yn Greawdwr a Chynhaliwr. Tra y sonia'r athronydd am Hegel a Bergson, sonicd y pregethwr am yr Arglwydd Iesu. Tra y sonia'r athro yn y Coleg am wahanol lyfrau'r Beibl, a'r haenau gwahanol ynddynt, a thwf eu syniadau, sonied y pregethwr am fywyd tragwyddol '—am dwf enaid wedi ei guddio gyda Christ Nuw, am y profiadau mawr a roddodd fodolaeth i'r llyfrau hyn.

Cychwynnodd Pererin Bunyan i'w daith gan waeddi "bywyd, bywyd, bywyd". Dyna waith y pregethwr—cyhoeddi bywyd—y gwir fywyd, yng Nghrist.

II. RHAID CAEL Y PETHAU HYN YN ARGYHOEDDIADAU.

Nid dim ond cyfaddefiad eu bod yn wir, a chydsyniad y deall, ond rhaid eu cael yn argyhoeddiadau. Dylent fod yn rhyw gymaint o argyhoeddiadau yn yr aelod distadlaf, ac yn enwedig ymhob athro yn yr Ysgol Sul, a phob diacon, ac yn arbennig dylent fod yn llosgi yn gyson yng nghalon y pregethwr yn dân ar yr allor o hyd.

I gael Duw yn argyhoeddiad ynom, rhaid myned ato yn gyson—a byw yn ei gymdeithas a rhoddi ein bywyd mewn ufudd-dod iddo. Daw Crist yn eiddo i ni drwy fyned ato a'i ddefnyddio fel ein Brenin, ac ymddiried ynddo fel ein Gwaredwr. Daw Gweddi yn ffaith i ni wrth ei harfer. Daw Bywyd santaidd yn ffaith i ni wrth ei fyw. Rhaid i'r gred dyfu'n argyhoeddiad.

O'r argyhoeddiadau hyn y tyf ein cenadwri. 'Nis gallwn ni, na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom ".