Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wnawn â'r arweddau hynny (a) Credaf ei bod yn hollol deg i'w gadael yn llonydd, hyd nes y daw gweledigaeth eglurach. (b) Neu gyffesu yn syml ein bod yn amheus ar y pwnc. (c) Yng nghynnydd mawr y gwirionedd erys rhyw bethau yn ddyrys o hyd, a bydd rhyw ffurfiau heneiddio beunydd, a dylem draethu hynny. (d) Mae llawer arwedd ar y gwirionedd yn fwy o bwnc Dosbarth neu gymdeithas lenyddol nag o bwnc pulpud.

Nid oes raid i ni bregethu holl gasgliadau uwch—feirniadaeth ar unwaith, a'r pethau y teimlwn amheuaeth yn eu cylch, y mae yn berffaith onest i ni eu gadael yn llonydd, a chyflwyno ein nerth i neges foesol ac ysbrydol pregethu, —i genadwri gadarnhaol cariad Crist. Oherwydd, wedi'r cwbl, nid pregethu llyfr ydym, ond pregethu Duw byw, a Christ byw, a bywyd Dyn—a chymorth i wneud hynny yw'r Llyfr. Credu gwan iawn, yw'r credu llythrennol yn holl eiriau'r Beibl, a neges arwynebol a dyf o honynt. Rhaid taro i lif y datguddiad cynyddol, a chyffwrdd â'r profiadau mawr sydd wedi cynyrchu'r Beibl. Y gwir afael yn y Testament Newydd, yw gafael yn yr argyhoeddiadau mawr, a'r profiadau mawr, a ddaeth i galon y dynion a’i hysgrifennodd, hyd nes y bydd yr un argyhoeddiadau, a'r un ysbryd, o dan ein pregethu ni, ag sydd yn gorwedd dan lyfrau'r Testament Newydd:—yna fe ffy y pynciau dadleugar yn fanion—mân.

Wedyn bydd yn hollol deg i ni fanteisio ar bob cymal o'r Beibl—pob traddodiad a dameg, pob credo ac arfer sydd ynddo, fel cynorthwyon i ddangos y profiadau hyn, a dangos Duw, Crist, a bywyd Enaid.

Crist yw ein Brenin. Cariad yw ein nwyd. Ac y mae yn deg i ni fod yn dawel ar bob peth sydd yn tueddu i gymylu ein neges—hyd nes y bydd gennym weledigaeth eglur. Mae modd aros gyda manion nes colli'r neges fel y llanc bach yn chwarae ar y ffordd, gan anghofio ei waith. Dyna'r tir, neu'r awyrgylch i dyfu'r negesau a'r argyhoeddiadau hyn, fe dyf digon o negesau i ateb pob angen ar un llaw, a phob dull o feddwl ar y llaw arall.