gysegriad i ddod o hyd iddynt. Mae nerthoedd naturiol yn aros am eu defnyddio—ocheneidia'r mellt am fwy o waith, griddfanna'r llanw ar y glannau, ac wyla rhaeadrau a nentydd ar y llechweddau am waith, a dylai addysg fod yn fwy uniongyrchol, pa fodd i ddeall natur a'i defnyddio, felly nerthoedd ysbrydol, deisyfant am eu defnyddio, a rhaid i'r eglwys wrth weddi, gwasanaeth, a chariad i ddod o hyd iddynt.
Mae Duw yn aros i ni ddod ymlaen. Rhaid iddo wrthym, ac wrth ein gweddiau.
Pa le y mae mwyaf o gariad: Pa un ai yn yr eglwys ai yn y byd Os yn y byd, yno y mae Crist!
Peidiwch cweryla am yr enedigaeth wyryfol, eithr awn ar ein gliniau yn yr Efengyl yn ôl Ioan, i ofyn am fedydd cariad Crist. Nid gwahanol ddarlleniadau o Eseia yw'r pethau pwysicaf, ond yfed o ysbryd y Groes. Gadawer i ni ganiatau i bob un ei ryddid barn ynglŷn ag awduraeth llyfrau'r Beibl, a gwahanol ddarlleniadau ac athrawiaethau, ond gadawer i ni oll blygu yn ymyl y Groes,—a thra byddom ni yn ymyl y Groes, bydd y pynciau dyrys a dadleugar yn setlo'u hunain. Syniadau am y gwirionedd. yw'r athrawiaethau amryw, ac nid y gwirionedd ei hun. Awn at y gwirionedd ei hun. Nid pentwr o syniadau sy'n bwysig ond ysbryd wedi ei fedyddio ag ysbryd Crist—ei fedydd tân Ef. Efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysbryd Glân ac â thân."
Dysged yr ieuanc diwylliedig, beidio crlid yr hen, a dysged yr hen bobl oddefgarwch ac amynedd gyda'r ieuanc nwyfus,—a gadawer i ni ddod yn un mewn ysbryd gwasanaeth a chariad. Undeb yr ysbryd a chwlwm tangnefedd.
Rhaid i'r fundamentalist beidio a bod yn erlidgar, a rhaid i'r esboniwr gwyddonol fod yn addolgar ei ysbryd; y mae y naill a'r llall yn colli'r ffordd, pan yn colli ysbryd cariad. Gyda chariad Crist yn y galon, ni ellir parhau i amau gonestrwydd y pregethwr cyffredin, dim ond iddo lynu at ei neges gadarnhaol a gadael llonydd i amheuon min