Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eithr gyda'r neges iawn, a'r ysbryd iawn i'w dweud, yna saif pregethu yn hollol ar ei ben ei hun, ac yn anfarwol byth; canys golyga gyffyrddiad personoliaeth santaidd â phersonoliaeth arall ac â chymdeithas, yr hyn sydd yn hollol wahanol i arawd neu lyfr. Cyffyrdda â haen ddyfnaf y galon. Saif yn hollol ar ei ben ei hun.

Dywedodd cyfaill wrth Dr. Jowett, pan fu rhaid iddo ddechrau lleihau ei waith fel pregethwr—"you can give your message in writing ". No meddai Jowett," my work is preaching". Llosgodd yn gynnar—llosgodd yn nhân ei waith!

Yna wedi taro ar ein neges, ein dyletswydd yw ei dweud a'i gwneud, gan wrthod torri'n calon. Na rodder gormod o bwys ar dyrfa fawr, y mae prif negeswyr y ddaear wedi cyflwyno eu neges i'r ychydig. Gadawyd y Gŵr a ddaeth â'r newydd gorau erioed i'r byd-do—gadawyd Ef yn unig". Na fydded i lif cymdeithas wrth ymdorri i gyfeiriadau ereill beri i ni ildio—tra dalio ein nerth. Dioddefwn ambell saeth a siom yn fodlon iawn. Cafodd Ef ei "holi drwy fflangellau "—ffordd go ryfedd o holi—drwy fflangellau. Nid yw'r fflangellau hyd eto wedi gorffen pydru. Atebwn hwy â chariad. Deisyfwn yn gyson am gariad i lywodraethu ein holl ymddygiadau, am mai ein gwaith yw cyhoeddi yr enw rhagorol, yn ei ysbryd Ef. Mae'r gwaith yn fawr, a'r gweithwyr yn anaml, gweddiwn am i Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i'w gynhaeaf. Amlwg yw, bod arno eisiau ein gweddiau. Maent yn gymorth iddo Ef i anfon ei weithwyr. Ond cofiwn mai Efe biau'r cynhaeaf. Na phryderwn am y cynhaeaf. Ein gwaith ni yw hau, "y medelwyr yw yr angylion ".

Mae'r oes yn galed ac anodd, yn fydol a materol. Ond fe wynebodd apostolion Crist ar oes cyn galeted â hithau, a chaletach. Plant ieuengaf yr Apostolion ydym ni. Wynebasant hwy ar garchardai, erlidiau, a marwolaethau. Na rwgnachwn, os ydym am fod yn blant i'n tadau. Ofnai y Parch. Hugh Price Hughes nad oedd yn was iawn i Grist am nad oedd erioed wedi bod yn y carchar. Ceisiwn