roddi ein hunain mewn gweddi syml, yn eiddo i Dduw a'i Grist Ef" Arglwydd defnyddia fi yna deued a ddel.
Ymddiriedodd yr Apostolion yng Nghrist ac ymddiriedodd Crist ynddynt hwythau. Cofiwn fod gan Grist ymddiriedaeth ynom ni.
ynom ni. Yr ydym ni yn ymddiried ynddo Ef—y mae yntau yn ymddiried ynom ninnau. Yr ydym yn credu yn Nuw, ac y mae O yn credu ynom ninnau. Yn yr ymddiriedaeth ddyblyg hon gallwn yn hyderus eto ddisgwyl am un o ddyddiau Mab y Dyn.
Pa fore hoffem weled yn torri ar y ddaear? Bore heb ryfel Ie. Bore heb eisieu bara ar neb? Bore heb gynnen rhwng dyn a dyn? Bore brawdgarwch a chariad yn uno cymdeithas yn un darn ger gorsedd Duw? Ie.
Ond cymered y ffurf a fynno—bore un o ddyddiau Mab y Dyn. I osod ein hysbryd yn ei le, a'n tywys i'r gwirionedd. Gadawer i ni godi ein llygaid tua'r nef a dweud gyda Difinydd Patmos, yn wir tyred Arglwydd Iesu ".