Mudiad anferth erbyn heddiw yw Cristionogaeth. Cylch pendant o fywyd neilltuol yw Teyrnas Dduw—y mae yma syniadau a meddyliau, athroniaeth a diwinyddiaeth—y mae yma gymdeithas eneidiau, ac egwyddorion mawr cariad a phurdeb—y mae yma gymwynasau, haelioni ac aberth. Eithr yng nghanol y Mudiad y mae Person byw yr Arglwydd Iesu, a daw ei alwad Ef ei Hun allan at y byd. Nid dim ond galwad egwyddorion a rhinweddau ond galwad y Person ei Hun.
Y Person a alwodd ar Mathew yw'r datguddiad pennaf ac uchaf sydd gennym o Dduw. Geilw Paul ef yn Grist gallu Duw a doethineb Duw. Ynddo Ef, meddai Ioan, yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni. Efe yw'r datguddiad mawr o Gariad Duw, ac nid ydym yn sicr fod Duw yn Gariad yn unman arall. Daw Duw atom drwy'r Person hwn o hyd. Y mae Efe yn ddatguddiad parhaus o Dduw. A geilw arnom i'w ddilyn, a chawn ninnau sicrwydd o Dduw wrth ei ddilyn Ef. Person ŵyr y ffordd at Dduw. Nid syniadau nac athrawiaethau, ond arweiniad y Person ei Hun.
Person ei Hun. "Nid oes neb yn dyfod at Tad ond drwof I." Rhaid cael arweiniad llysgennad i fynd at y brenin. Drwy Grist yr eir at Dduw.
(2) A'r alwad yma i le isel. "Lefi—wrth y dollfa." Galwad i'r annheilwng, a oedd yn byw bywyd amheus, fe ddichon, yn defnyddio geiriau llygredig, a tharo bargeinion gwael. Un yn byw'r bywyd colledig. Un o'r defaid colledig. Mab Afradlon. Cafodd ei ddwyn i fyny mewn teulu da. Paratowyd ef at waith y Deml. Cafodd ysgol a choleg. Onid oes rhyw sŵn felly yn yr enw Lefi". Ei godi yn offeiriad oedd uchelgais ei rieni wrth roddi ei enw iddo. Pan oddeutu gorffen ei goleg, blinodd ar grefydd Judea. Gwelodd nad oedd dim yn y seremoniau, ac mai gwag a rhagrithiol oedd y Deml. Blinodd ar aberthau di-rif a gwelodd orthrwm a rhodres yr arweinwyr. Daeth adref a dywedodd wrth ei dad a'i fam ei fod yn gadael y coleg, a'r offeiriadaeth, a chrefydd Jerusalem.