Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu hyn yn ofid mawr iddynt. Dywedodd wrthynt ei fod am ymuno â'r publicanod, ac yr oedd hyn yn ofid mwy iddynt. Dyma fyned i wasanaethu Rhufain—gwasanaethu gormeswyr y genedl. Dyma golli ei grefydd, ei wladgarwch a'i genedlgarwch. Cymerodd y swydd hon, fe ddichon, yn ei awydd i ymgyfoethogi. Gwawriodd swyn cyfoeth arno yn Jerusalem, a gadawodd grefydd ei oes, ac ymwerthodd i'r estron er mwyn dod ymlaen yn y byd. Y peth sy wedi bod yn rhwydd i filoedd, a llewych deniadol ganddo o hyd yw "dod ymlaen yn y byd". Rhoddwn ragor o'i gofiant yn nes ymlaen. Ond ato ef—y Mab Afradlon hwn sy wedi ei werthu ei hun i elynion ei genedl y daw galwad Crist yma. At yr hwn sydd yng nghanol colledigaeth.

Daw'r alwad i'r un lle o hyd. Y mae Efe am achub y gwaethaf, a chodi'r dyfnaf. Dyfnder a eilw ar ddyfnder." Dyfnder cariad Duw yn galw ar ddyfnder trueni dyn. Y mae'r sancteiddrwydd mwyaf am fynd dan wraidd y llygreddau gwaethaf. Nid cadw draw rhag yr aflan a'r euog y mae gwir sancteiddrwydd, eithr nesu atynt i'w hymgeleddu â thriniaeth fwyn y dwyfol Gariad. Nid myned y ffordd arall heibio, ond cadw'r ffordd sy'n arwain atynt i drin eu briwiau.

Fe gred Crist yn yr isaf. Gair go ryfedd wedi dod i lên ddiweddar yw bottom dog. Dyn ydyw, mae'n debyg. Ac os dyn ydyw, fe gred Crist ynddo. Ac fe fedr dyfu enaid ynddo, a'i godi. Gŵyr Ef am barthau isaf y ddaear. Teimla ddiddordeb dwyfol yn y tlawd a'r truan. Cerddodd Efe'r dyfnderau, ac atseinia galwad ei gariad yn y cymoedd tywyll o hyd. Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn ond pechaduriaid i edifeirwch." Y mae galwad yr Efengyl yn bendant i'r pechadur a'r truan ddyn. Dyma ein gobaith. Yr ydym yn meddwl llawer, yn fynych, o'n rhwysg, a'n safleoedd, ein henw, a'n clod, a'n cyfoethewyn min y lli—tawch corsydd y ddaear hon,—anadl y camlesydd. Ein gorchuddio a'n diffodd a wnant oni