Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chawn rywbeth mwy a gwell. Tyrr galwad Ceidwad drwyddynt i gyd, treiddia odditanynt oll. "Ffrynd pechadur, dyma'm llywydd ar y môr.'

(3) Galwad yng nghanol helyntion bywyd beunyddiol "yn eistedd wrth y dollfa". Dyn wrth ei waith, yng nghanol prysurdeb ei alwedigaeth, a galwedigaeth yn gofyn ei sylw manwl os am lwyddo. Unrhyw alwedigaeth ariannol, rhaid i'r meddwl fod yno yn gyson neu fe all golli darn o arian yn y fan. Un parod iawn i fynd i golli yw hwnnw. Medr lynu wrth ambell law. Ni thâl i gyfrifydd fod yn absennol ei feddwl. Daeth yr alwad i hwn yng nghanol trafodaeth ariannol, yn sŵn tincian arian, yn ffau Mamon. Nid yn y Synagog, nid yn y Deml, ond y dollfa! Un ryfedd yw galwad Iesu—y mae ar ryw ymchwil tros y ddaear, ac yn troi i mewn i gonglau rhyfedd. "Y mae y gwynt yn chwythu lle y mynno.

Clywir hi yn y Synagog a'r Deml. Clywyd hi yno yn llythrennol lawer gwaith. Clywir hi yno o hyd. Canys y mae'r addoliad yn gyfrwng arbennig iddo Ef i siarad a galw. Un neges fawr i gapel ac eglwys yw creu man cyfleus i'r Iesu i alw. Dyma le wedi ei gau i mewn gogyfer ag iddo Ef gael distawrwydd i siarad. Parchwn y llannerch gauedig, ac awn yno i wrando arno. Eithr mwy yw Efe na phob ffiniau dynol. Ni ellir ei gau i mewn. Ni all muriau sect, plaid, credo, ei gau i mewn. Ni ellir amgylchynnu Sant yr Israel â dim terfynau. A allan dros bob clawdd terfyn i alw. . . . . i'r prif ffyrdd a'r caeau i alw. A i slums y ddinas i alw. A chlywir Ef mewn lleoedd rhyfedd. Gwn am un a'i clywodd yng nghanol rhialtwch y gyfeddach yn y dafarn. Galwodd arno mewn iaith gyffredin "Dere mâ's ". Daeth yntau mâ's —ac nid aeth yn ôl. Gwn am un arall a'i clywodd y tu cefn i gownter yr ariandy, ac un arall yng nghanol papurau ei swyddfa fel cyfreithiwr. Clywyd ef ganwaith yng nglofeydd Morgannwg, a chwareli Meirion ac Arfon. Yr oedd Iesu'n gyfarwydd iawn â llwybrau cul tywyll yr