Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae modd ymesgusodi. Fel y dyn hwnnw am "ganu'n iach i'r rhai oedd yn ei dŷ ", neu'r gŵr a oedd am fyned yn gyntaf i gladdu ei dad. Dechreuasant yn unfryd ymesgusodi. Y mae modd cael esgusodion o hyd. Nid rhesymau ond esgusodion! Nid oes reswm digonol dros wrthod yr alwad, eithr gellir cael digon o esgusodion. Ond nid yw Mathew yn ceisio'r esgusodion, buasai yn ddigon hawdd i ŵr yn ei safle ef eu cael, eithr etyb yr alwad yn gadarnhaol ar unwaith.

(1) Ateb â gweithred. Nid â gair ond â gweithred. Nid ag addewid ond ag act. Wele un o actau cynnar yr Apostol. Codi a dilyn." I ateb yr alwad yn iawn, rhaid gwneud hynny â gweithred yn ogystal â gair. Golyga symudiad a newid ym myd enaid a chalon, ac yn aml ym myd corff yn ogystal. Sylwer i Mathew yn ei ateb "godi a dilyn ". Mae modd codi a pheidio dilyn—mae modd codi ac eistedd yn ôl. Gafael yn y rhaff a'i gollwng. Gwelsom rai yn codi yng ngwres teimlad, neu dan amgylchiadau cythryblus, ond yn peidio dilyn. Gadael y cwpan, a mynd 'nôl ato wedyn; gadael iaith amhur, a'r cwmni llygredig, a'r ffosydd, ond mynd 'nôl wedyn. Codi, ond ddim dilyn. "Yr hwn a barhao ", meddai'r Arglwydd Iesu a fydd cadwedig. Dilyn fi." Rhaid dechrau a dal ati. Y mae rhoddi cam ar lwybr Iesu yn golygu rhoddi cam arall. Os mynd gydag Ef filltir, rhaid mynd gydag Ef ddwy.

Onid dyma lawer o gyfrinach y bywyd crefyddol Codi a dilyn. Cychwyn a dal ati. Y gwydnwch a'r dyfalbarhad hwn yw cyfrinach llwyddiant bywyd ymhob cylch, fel rheol. Ni ddaeth neb yn grefftwr heb ddechrau a dal ati. Ni ddaeth neb yn ffarmwr na masnachwr, heb gychwyn, a dal ati. Dyna ffordd yr ysgolhaig, y llenor, y bardd, a'r cerddor. Dyna ffordd y drwg hefyd. Nid oedd y drwg yn fawr ar y dechrau, ond aeth yn fawr drwy ddal ati. Aeth y genfigen yn ofnadwy wenwynig drwy ei dilyn o hyd. Aeth meddwdod yn feistr creulon drwy