Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dollfa. Dywedodd wrth un o'i weision un bore," byddaf yn rhoddi i fyny gyd a hyn, gwnawn bob peth yn barod". Yna, fe'i gesyd ei hun i ddisgwyl Iesu. Un bore dacw'r Iesu'n dod, a'i alwad fwyn—ac yntau'n ufuddhau ac yn myned, gan newid byd. Bwriodd ei hun i mewn i fyd newydd. Wedi gwrando, gafael, yna symud.

Gadael rhyw bethau ar ôl. Codi a symud. Dilyn Crist yn golygu cyfnewidiad a symudiad. Gadael y dollfa —y bargeinion gwael, â'r geiriau sâl! Gadawodd eraill eu rhwydau ac a'u canlynasant Ef. Rhaid gadael rhyw bethau a'u gadael am ei fod Ef yn galw. Eu gadael ar ei alwad Ef, ac mewn ufudd-dod iddo. Galwodd Crist arnat yn yr oedfa, neu yn un o amgylchiadau dy fywyd, galwodd yn dy gydwybod, a gorchmynnodd i ti i adael rhyw bethau ar ôl. Gadael geiriau, arferion, a meddyliau ar ôl. Peth peryglus yw ceisio gwrando'r alwad, a lercian yn y dollfa yr un pryd, yng nghanol pethau'r bywyd colledig. Y mae hwn wedi gwrando, a gafael, a symud.

(3) Croeso. Wrth ddilyn, cawn ef yn union yn rhoddi ei dŷ a gwledd i'r Iesu. Gwledd i'r Brenin newydd. Disgwylia Crist gael dod i'r tŷ: Crist yw pen y tŷ hwn". Dylai gael lle wrth y bwrdd, a rhan o bob gwledd: ac â prinder yn wledd gydag Ef yn aml. Ond atolwg, pa wledd sydd gennym ni i'w rhoddi iddo Ef: Dylai gael ein gorau ymhob peth,—a'n gwaethaf. Gallwn roddi ein hunain iddo, fel yr ydym. Rhoddi ein pechodau iddo, a'n clwyfau. Gwledd iddo fydd maddau ein pechodau a gwella ein clwyfau. Ac yn ei faddeuant dyry i ni ei dangnefedd. Mi a swperaf gydag Ef, ac yntau gyda minnau.

(4) Dilynodd gyda Gwybodaeth gyfyng. Mentro ar ôl Crist, heb fod yn gwybod rhyw lawer. Syniad cyfeiliornus sydd dan y wledd yma yn lled debyg. Disgwyl teyrnas ddaearol y mae, a dechrau croesawu'r Brenin. Bu raid chwalu'r syniadau hyn, a mynd ymhell o olwg gwleddoedd daearol. Ond er yn amherffaith ei syniad, y mae wedi gafael yng