Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nghrist—yn y Person. Ni allwn ddeall y cwbl am Grist cyn dechrau ei ddilyn. Ein syniadau bawb ohonom yn amherffaith. Gafaelwn ynddo Ef fel ein Gwaredwr, a'i ddilyn. Rhaid dechrau gyda gwybodaeth fach, a gosod ffydd i weithredu ar honno. Nid ydym yn deall y bont sy'n croesi'r afon, ond yr ydym yn ei cherdded; ddim yn deall y peiriant, ond yn myned i'r cerbyd; ddim. yn deall yr awyr a'r ffrwythau, ond yn anadlu a bwyta. Rhaid cychwyn i ddilyn Crist heb ei ddeall i gyd, eithr i ddyfod i'w ddeall yn well wrth fyned ymlaen.

Cychwynodd Mathew gyd â gwybodaeth fach, ond daliodd i ddilyn.

(5) Dal ati: para, drwy bob tywydd. Gall y dyn cyffredin wneud disgybl da drwy ddal ati, a gall y dyn cyffredin wneud hyn—dal ati.

Dacw'r disgyblion yn myned allan i bregethu yn ddau a dau, a gosodir Mathew gyda Thomas. Cwmni pryderus, amheus.

Ym Mynydd y Gwedd-newidiad: nid yw ar ben y mynydd, ond ar y gwaelod gyda'r rhai sy'n methu; ond yn para, er methu.

Yn y Cymundeb yn yr Oruwchystafell. Nid efe yw'r agosaf at y Ceidwad, ond y mae yma. Yn yr Ardd—nid gyda'r tri ond y mae yno. Yn yr Oruwchystafell wedi'r Atgyfodiad, y mae yno, pan oedd ei gyd-bregethwr yn absennol. Wedi'r Esgyniad, yn y Cwrdd Gweddi " lle yr oedd Pedr, Iago, Ioan, Andreas, Phylip, Thomas, Bartholomew a Mathew. A siaradodd yno? A fu'n cymryd rhan yno? Yr oedd yno.

Yr hen syniadau wedi newid llawer. Y mae yn awr a'i afael yn y Crist ysbrydol, a'i wyneb ar y Pentecost; yn dilyn o hyd.

Gallwn fentro edrych arno, yn hen ŵr, mewn congl unig, wedi methu mynd i'w daith, yn ysgrifennu geiriau'r Iesu. Yr oedd wedi arfer ysgrifennu. Gosododd rai o