gorchmynaf fy ysbryd". Hunodd yn y goleuni—aeth i orffwys yn y goleuni—a deffrodd yn y goleuni fore'r trydydd dydd ; ac ni bydd nos yn ei brofiad na'i hanes mwy. Preswylia mwyach yn y dydd bythol. "Ac ni bydd nos yno".
Yn ein testun, y mae yn sicr o'i atgyfodiad, ac yn gwneud apwyntiad â'i ddisgyblion y tu hwnt i'r bedd. Apwyntiad yr ochr arall i'w angau a'i fedd. Fe fyddwn ni yn gwneud ambell apwyntiad, ac yn dweyd "fe gyfarfyddaf â chwi yn y fan a'r fan, y pryd a'r pryd ", a byddwn yn cadw ambell un ohonynt, ac yn torri ambell un arall. Ond dyma apwyntiad rhyfedd y tu hwnt i'w angau—
Ewch i Galilea, a byddaf yno yn eich cyfarfod yno y'm gwelwch i"; ac fe'i cadwodd! Dyma feiddgarwch ysbrydol Tywysog y Bywyd yn addaw, a buddugoliaeth ysbrydol Tywysog y Bywyd yn cyflawni. Sylwn ar
YR YMDDANGOSIAD YNG NGALILEA.
(a) Naturiol i'r Iesu oedd mynd i Galilea wedi brwydr y Groes, a'i fuddugoliaeth. Myned adref. Myned adref ar y ddaear, ar ei ffordd at ei Dad i'r Nef. Dyma'r lle'r oedd Nazareth lle y magesid Ef, a Chapernaum ei ddinas ei hun". Dyma faes ei weinidogaeth lwyddiannus. Dyma'r fro lle bu'r torfeydd yn ei ddilyn i bob man. Y mae olion gwyrthiau ymhob man yma, a'r damhegion o hyd yn fyw ar faes a bryn a mynydd. Hyfryd fydd mynd am dro i lan y môr, i ganol atgofion oedfa fawr a'r helfa bysgod. Dyma'r llecyn lle y cafodd ei ddisgyblion cyntaf a gorau. Galilea hoff! Anadlu awelon Galilea wedi llwch Jerusalem a thawch angau. Gelynion a gafodd yn Judea—dim ond un o'i ddisgyblion oedd o Judea—a Judas oedd hwnnw. Naturiol iawn iddo a fydd mynd am dro i Galilea.
(b) Naturiol hefyd i'r disgyblion oedd myned yno. Rhagwelai yr Iesu hyn. Naturiol oedd meddwl y buasent yn tynnu'n ôl i'r hen fro. Rhagwelai y buasent hwythau yn tynnu tua chartref. Ac y mae am iddynt fyned. "Ewch í Galilea." Canys y mae yno gyfle bendith iddynt. Y