Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(b) Yr ymddangosiadau. Rhyfedd a dieithr eto yw y rhai hyn, ond pa beth bynnag oeddent, yr oeddent yn ffordd yr Arglwydd Iesu i ddangos iddynt hwy ei fod yn fyw. Amhosibl i ni heddiw yw eu hesbonio, ond dan— gosodd Iesu drwyddynt ei fod yn fyw. Ei fod yr un. Myfi fy hun ydyw. Yr Iesu a fu'n cyflawni gwyrthiau, ac yn llefaru damhegion. Yr Iesu a aeth i'r Groes—eto'n fyw, a chyda hwy. Anodd oedd ganddynt gredu. Yr oedd ei gobaith wedi diffodd. Nid dychymyg y rhai hyn a greodd yr Atgyfodiad—canys yr oedd eu dychymyg yn erbyn y syniad. Credasant yn erbyn eu dychymyg, ac yn erbyn eu ffordd o resymu. Argyhoeddwyd hwy gan yr ymddangosiadau. Nid rhesymeg, na syniadau, na rhag— fynegiadau, ond yr ymddangosiadau. Argyhoeddwyd hwy gan ei ddyfodiad Ef. Yr un Person mawr yn gafael ynddynt eto. Yr oedd yr argyhoeddiad ei fod yn fyw wedi ei ddechrau yn eu calonnau yn Jerusalem, gyd â'r ymddangosiadau yn yr Oruwch-ystafell, yn yr Ardd, ac ar y ffordd. Yr oedd yr had wedi ei fwrw i'r ddaear. Y golau wedi dechrau gwawrio. Ond y mae'r peth mor fawr a dieithr, ac mor anodd ganddynt hwythau gredu, fel y mae lle i ymddangosiad eto—yn Galilea, i ddyfnhau'r argyhoeddiad.

Ac y mae rhywbeth mewn lle—cymdogaeth Jerusalem oedd y gorau i ddechrau maes y frwydr. Yna Galilea—maes y weinidogaeth gynnar. Bydd pob atgof yn cynorthwyo'r argyhoeddiad i'w ddyfnhau. Daw gwyrth y môr, a Phregeth y Mynydd i ail afael. Aethant i Galilea. Cawsant yr Iesu yno. Ef ei Hun. Y Bugail wedi ei daro, ond heb ei ddifetha. Angau ddim wedi ei ladd. Y bedd wedi methu ei guddio. Dyna'r Iesu'n fyw. Dyma un o nodweddion mawr ein crefydd. Y mae Person byw yr Arglwydd Iesu yn ei chanol. Mwy yw ein crefydd nag athrawiaeth, egwyddor, gorchymyn, rheol,—perthyn y pethau yna iddi ond y mae hi yn fwy. Ei ffynhonnell fawr yw Person byw yr Arglwydd Iesu. Golyga Cristnogaeth, gred a gafael mewn Person byw. Cymdeithas â Pherson