Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er hynny, yn nyfnder ei galon ei fod yn caru'r Iesu. Dyma uno â'r Iesu mewn cariad. A dyma'r unig ffordd i uno ag Ef. Dyma ei rwymo â chariad yn garcharor Iesu Grist

Yna, meddai'r Iesu, " ortha fy ŵyn. Bugeilia fy nefaid. Portha fy nefaid." Dyma ei ddwyn at ei frodyr. A'i ddwyn atynt mewn cariad a gwasanaeth.

"Fy ngharu i"—dyna ddod yn nes at Iesu. "Portha fy ŵyn "—dyna ddod yn nes at ei gilydd. Eu huno â'i gilydd, ac ag Ef mewn cariad. Dyna'r egwyddor fawr. Hon sy'n ein clymu wrth Grist ac wrth ein gilydd. Seiat ryfedd oedd hon ar lan y môr. Cyfarfod y bore. A bu'n gyfle i fwyta bara'r bywyd, ac anadlu'r nwydau nefol, tragwyddol. Gelwir hwy i afael cariad, yna, mewn cariad i ufudd—dod a gwasanaeth. Ac i'w wasanaethu Ef wrth wasanaethu ei gilydd. "Portha fy ŵyn." Rhaid cael y Person byw i ddechrau, a gafael ynddo mewn cariad, yna ufuddhau iddo, a chynwysa'r ufudd-dod hwnnw fyned ohonom allan i wasanaethu cyd-ddyn. Drwy hyn i—

III. AIL AFAEL YN EU GWAITH. Sŵn gwaith sydd yma— Portha Bugeilia". Y mae Ef yn anfarwol. Yr ydym ninnau yn anfarwol mewn undeb ag Ef, ac y mae ei waith yn anfarwol. Rhaid iddo Ef gynyddu. Yma, casgl Ef ei eglwys fach wasgaredig at ei gilydd, a gesyd hi ar ben y llwybr i wynebu gyrfa'r oesau. Cychwyn taith dragwyddol. Taith sydd i barhau drwy oesau daear a nef. Pa beth bynnag oedd yr ymddangosiadau yma, y rhai hyn ddaeth â'r disgyblion yn ôl at yr Arglwydd, ac at ei gilydd, ac at eu gwaith. Dyma fu'n ail-gychwyn yr eglwys. Cymerodd rhywbeth annirnadwy le. Daeth yma ryw ymyriad Dwyfol, byw, ofnadwy. Canys yr oedd y Bugail wedi ei daro, a'r praidd wedi ei wasgaru. Ond daeth y Bugail drachefn i'w dwyn yn ôl. Nid cysgod, na thybiaeth—daeth Ef ei Hun.

Y gair olaf ar derfyn yr oedfa yma yw—"Dilyn fi". Dyma'r gair a ddefnyddiwyd wrth eu galw y tro cyntaf—ac efallai yn yr un man, ac yn ymyl gwyrth gyffelyb.