Cofiai Pedr yr alwad ddwy flynedd a hanner yn ôl,—dyma hi eto yr un cariad yn galw, ond â thrueni cariadlawn newydd yn ei lais—swyn anghymarol ysbrydol yn ei acen. Rhaid mynd eto. Rhaid ail-afael. Arwydd dda yw bod dyn yn fodlon ail-afael ar ôl methu. Arwydd bywyd ysbrydol yw parodrwydd i ail-ddechrau, a pharod yw Duw i roddi i ni "ail ras ".
Dacw hwy'n cychwyn, er cymaint swyn y môr, ac atgofion yr hen fro, gydag argyhoeddiadau dyfnach, a gafael dynnach. Ac y maent yn ôl yn Jerusalem yn union, yn yr hen ystafell, lle bu'r ymddangosiad cyntaf—mewn cyfarfod gweddi yno, a'u gafael mewn Crist mwy ysbrydol nag erioed, a'u hwynebau at y Pentecost. Dyma'r lle gorau iddynt yn awr. Nid dim ond atgofion brwydr a fydd yma iddynt bellach, ond atgofion buddugoliaeth. Nid dinistr angau, ond concwest bywyd. Sicrwydd anfarwoldeb ymhob man. Nerthoedd bywyd annherfynol yn llifo o bob atgof. Bydd hyn yn taflu tân ar eu hangerddolrwydd, a byddant yn y Pentecost yn union.
Yng ngafael cariad at Grist, a gwasanaeth drosto mewn cariad at gyd-ddyn, y mae ei waith yn anfarwol fel Ef ei Hun. Cyfranogir o'i anfarwoldeb Ef wrth wneud ei waith. Teimlir nerthoedd Crist o hyd ar lwybr cariad a gwasanaeth, a cheir gafael newydd a chryfach ynddo o hyd fel y Crist byw.
IV. CAWN YMA HEFYD FYNEGIAD O WAITH Y CRIST YSBRYDOL O HYD: Myned o'ch blaen". Acthant hwy i Galilea i wasgaru—aeth Ef o'u blaen i'w cyfanu. Y mae am ein harwain o hyd, a'n dwyn yn ôl o bob crwydriadau: "Efe a ddychwel fy enaid". Wedi'r crwydro di-ffydd, a'r gwibio amheus, daw Efe o hyd i'n cyfarfod â'n dwyn yn ôl.
 o'n blaen at ein dyletswyddau ac at ein gwaith.  o'n blaen drwy anawsterau a phrofedigaethau.  o'n blaen i'n diogelu mewn peryglon, a'n tywys drwy'r croesffyrdd dyrys—yng nghanol y torfeydd, neu yn y llecynnau mwyaf unig. Saif ar y lan wedi llawer nos siomedig, yn dyner ei