air, ac am ein cynorthwyo. Dywed Ef o hyd "deuwch, ciniawwch" ar draethellau digon llwm. Darpar fwyd mewn lleoedd anial o hyd. A o'n blaen yn ein calon ein hunain, tywys i'r celloedd mwyaf mewnol, at ein bwriadau a'n hamcanion; teifl ei oleuni i'r lleoedd tywyll yno. Arwain Ef i ganol ein cydwybod a deffry egnion yno, nes dyfod iddi deimladrwydd a thynerwch newydd. A o'n blaen ar daith bywyd, o'r crud i'r bedd—dros ddolydd bore oes, a'r cacau glas, dros y ffiniau, ddydd a nos. Dros gors a gwaun a chraig a chenllif drwy Ac i groesi'r ffin olaf, y llinell ddu rhwng y ddeufyd. Ac os myfi a âf, mi a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a'ch cymeraf chwi ataf fy hun ".
Am ein diogelu y mae Ef. Arweinydd a Bugail enaid ydyw. Ymlaen y mae Ef ac nid ôl. Daw miwsig pêr o'r gorffennol—swyn ei hanes—gloywder ei esiampl—eithr ymlaen y mae Ef—yma, y mae Ef. "Wele, yr ydwyf fi gyd â chwi". Ac am ein tywys i'w fuddugoliaeth byth. Gafaelodd y disgyblion ynddo yn Galilea—a dilynasant hyd angau. Ni fu sôn am droi yn ôl wedyn. Daeth y praidd gwasgar yn un i lwybr y bugail.
Clywais, yn ddiweddar, am ddau yn adrodd "Yr Arglwydd yw fy Mugail". Actor oedd y cyntaf, a gwnaeth ei waith yn berffaith, parthed llais, ac acen ac ystum. Hen weinidog oedd y llall, ac heb fod mor feistrolgar—ei lais a'i huodledd, eithr cafodd ddylanwad dwys ar y gynulleidfa. Aeth yr actor i longyfarch yr hen weinidog. "Y gwahaniaeth rhyngom" meddai, oedd hyn yr oeddwn i wedi dysgu'r Salm, 'roeddech chwithe wedi nabod y Bugail".
Dyna y mae'r disgyblion wedi wneud yma—adnabod y Bugail! Dyna'r prif beth i ninnau. Hynny a'n ceidw byth yn ddiogel.