Prawfddarllenwyd y dudalen hon
LLEOL A PHERSONOL
CANEUON YR HWYR
I "Fore fy Mywyd"[1] y cenais i gynt,
Ac ofnau gannoedd o'm cylch ar eu hynt,
Cenais yng ngafael pryderon di-ri,
A phrudd-der yn llanw fy mynwes i.
'Roedd loes yn fy nghalon o hyd, o hyd,
A minnau yn iach ac ieuanc fy myd;
Eithr baich ydoedd byw "i'm hysbryd gwan
A theyrnas arswyd oedd imi 'mhob man.
*****
Eithr ciliodd yr ofn, aeth yr arswyd ar ffo,
A lloniant sydd heddiw yn llanw pob bro,
Goleuni sydd heddiw ar fynydd a lli,
Goleuni a chân sydd ymhobman i mi.
'Rôl chwe' deg ac wyth o flynyddoedd llawn,
Mor felys im heddiw yw golau'r prynhawn;
Fy nghalon yn ffynnon o wynfyd llwyr
Yn gofyn am ganu Caneuon yr Hwyr.
- ↑ Cyhoeddais lyfr bychan ddeugain mlynedd yn ôl, yn dwyn yr enw
Bore Bywyd".Ni cheisir ymhelaethu ar y profiad ond yr oedd rhyw brudd-der
rhyfedd yn pwyso arnaf pan yn llanc, a bu ymron a'm concro droeon.Heddiw 'rwyf yn un o'r rhai dedwyddaf ar y ddaear.