Yna torrodd Seth ar yr ymddiddan, yr oedd ef newydd ddychwelyd o'r Wyddgrug, ac ôl glasied neu ddau arno.
Ddynes-be ych chi'n son: Y South yn lle mawr? Yn fwy na Graianrhyd? Be chi'n sôn P Mae tair sir ar ddeg yng Nghymru, ond y mae'r South yn fwy na nhw'i gyd gyda'i gilydd!
Pregethu yn Graianrhyd y bore, ac yn y Blaenau y prynhawn, a chael te ym mhentref bach Rhyd Talog, gyda'r hen frawd Robert Williams, ac yn gwneud sylw wrth roddi ei law i'm cynorthwyo i wisgo fy nghôt fawr. Mae'r gôt yma yn cadw yn go lew, ac ystyried ei bod wedi ei gwisgo gan gynifer o honoch chi stiwdents y Bala". Gwnaeth sylw cyffelyb wrth lawer un arall. Myned i Lanarmon yr hwyr, a chysgu yn Bryn yr Ogof, a chroesi 'nôl dros y mynydd bore trannoeth i orsaf Eyarth yn Nyffryn Clwyd, a thrwy Gorwen i'r Bala. Erys y daith yn ddarn o ramant yn fy meddwl hyd heddiw. Yr oedd Llanarmon yng nghanol Rhyfel y Degwm ar y pryd. Yr oedd gŵr ifanc yn gwrando yn astud arnaf nos Sul, a chefais lawer ymgom ag ef yn ei lety wedi hynny. Yr oedd ar y pryd newydd ymsefydlu yn yr ardal fel ysgolfeistr; teimlai ddiddordeb mawr yr adeg honno mewn llyfrau, a choed a blodau ac adar. Y mae ei enw erbyn heddiw yn eiddo cenedl—R. Morgan, M.A., a'i lyfrau ymhlith trysorau'r iaith.
Cefais yn fuan wedi hynny fyned i'r Graig Fechan a'r Pwllglas, a Soar a Jerusalem, ger y Wyddgrug, ac ni fu prinder Suliau arnaf wedyn. Byddai dau gyhoeddiad gennyf yn aml ar y Sul—un i mi fy hun, ac un i'w roddi i gyfaill. Nid oes achos manylu dim ar beth fel hyn, ond daeth cryn alw am fy ngwasanaeth, a bum yn alluog i'm cynnal fy hun tra yn y Coleg.
Pregethais yng Nghaer a Lerpwl, ac yn holl siroedd y Gogledd, gan fyned cyn belled â'r Trallwng ym Maldwyn, a Llaniestyn yn Arfon. Bu fy nhaith gasglu gyntaf yn Sir Gaernarfon, a'r ail yn Sir Drefaldwyn. Byddai rhoddi