hanes manwl o'r teithiau hyn yn ddigon o lyfr, ond ni roddaf ddim ond ychydig o'r argraffiadau. Ar ddiwedd yr oedfa bore Sul yn Ebenezer Bangor, daeth gŵr wyneb agored dan gnwd o wallt golau i siarad â mi, a gwên hawddgar, hamddenol, gan fy nghyfarch wrth fy enw "Ben". Ai Dafydd sydd yma," meddwn innau." "Ie" cbai yntau. Fy mrawd ydoedd. Nid oeddwn wedi ei weled oddiar pan oeddwn yn llanc-nac yntau wedi fy ngweled innau. Acthai i'r Wyddgrug tua deg mlynedd yn flaenorol i hyn, priododd yno, a throdd ei briodas allan yn anghysurus ymadawodd â'i briod, ac aeth allan i Awstralia, ac ymhen rhai blynyddoedd dychwelodd yn ôl, ac ysgrifennodd atom ei fod ym Mangor. Bwriadwn innau fyned ar ymchwil am dano ddydd Llun, ond cafodd ef y blaen arnaf, drwy ddyfod i Ebenezer bore Sul. Ym Mhen y Dref yr ymaelodai. Symudodd o Fangor i Rhyl. Ysgrifennodd donau ac emynau. Ysgrifennodd lawer i'r papurau. Bu farw yn ddiweddar, a chladdwyd yn y Rhyl. Brodyr o'r un tad oeddem, ac nis magwyd ar yr un aelwyd. Cyfrifai hynny i raddau am y dieithrwch. Ond wedi'r cyfarfyddiad ym Mangor, bu'r gyfathrach yn ddifwlch hyd y terfyn.
Cofiaf ryfeddu at lynnoedd a chreigiau Llanberis, a phrydferthwch dihafal Bettws y Coed. Meddylier am oedfa noson waith i fyfyriwr yn Nhrefriw, a chynulleidfa dda, a'r myfyriwr yn cerdded trannoeth o Drefriw i'r Bettws gan orffwys a rhyfeddu ac addoli dan y coedwig- oedd. Nid oedd fandaliaeth wedi rhoddi ei fwyell ar y coedwigoedd yr adeg honno. Sul ym Mettws y Coed a chroeso mawr yn un o'r gwestai, a phrydferthwch y fro'n fy meddwi ymron. Dringo i fyny'r creigiau, a chroesi i gyfeiriad Dolwyddelen gyda'r Parch. T. Evans, gweinidog. Gadawodd ef Bettws y Coed yn fuan wedi hyn, a bu yn gweinidogaethu yn America, ac yno y bu farw. Byddem yn "casglu " Ffestiniog ar y Suliau o'r Coleg, fel nad oedd angen gwneud taith yno yn ystod yr