wythnos. Cofiaf alw i weled y Parch. W. Pari Huws, B.D. wrth ddychwelyd ohonof o Dolwyddelen, ef newydd ymsefydlu yn Bryn Bowydd, ac ychydig flynyddoedd cyn hynny wedi ennill cadair Tredegar am ei bryddest ar Obaith", ac am hynny yr oedd swyn dirfawr i mi, mewn cael golwg arno, a gweled ei ystafell eang, a'i lyfrau lu, a gwrando ei frawddegau pert, bachog. Ymddug yn garedig a brawdol iawn ataf, ac yr wyf wedi parhau yn edmygydd ohono ar hyd fy oes.
Bu fy ail daith gasglu yn Siroedd Fflint a Maldwyn, gan ddechrau yn New Market gyda Mr. Thomas—y gŵr cloff o'r Alltwen. Cofiaf gael oedfa luosog noson ganol wythnos yn y Waen—ysgor a lletya mewn siop yno, a myned allan am dro i'r bryn gerllaw bore trannoeth gyda rhyw un oedd wedi galw am danaf, a chael allan cyn hir fod y brawd yn dioddef oddiwrth wendid ysbryd ar adegau. Mynnai osod pob llwyn o eithin ar dân a pharodd i mi gryn ddychryn. Melys fu cymdeithas Mr. James, y Sarn, a phregethu yn yr wythnos eto yn Sarn a Llwyn Helig. Cael bwyd a chysgu gyda Mr. James mewn llofft lom, a byw ar damaid lled gyffredin. Myned am dro gyda glan y llyn a thrwy'r coed, ac yr oedd rhyw ferch o un o drefi Lloegr wedi galw i weled Mr. James, a chyfeilles gyda hi. Gyda hwy yr aethom am dro at y llyn, a mynnai Mr. James i mi gerdded gyda'r ferch o Loegr, ac yntau gyda'r llall, oedd yn llawer ieuengach. Hen lanc ydoedd, ond yn hoffi cwmni merched ifainc, ifainc—gan adael rhai hŷn i fyfyrwyr. Parhaodd yn hen lanc ar hyd ei oes.
Daeth y daith â mi i Bontybodcin, ac yr oedd llythyr o Fwlch Gwyn yn fy nghyfarfod yno, ac yn gofyn a fuaswn yn gallu dyfod yno nos Lun i "gadw sciat". Yr oedd nos Lun yn digwydd bod yn wâg gennyf, ac i ffwrdd â mi brynhawn Llun, dros y relwe heibio Penuel, a thrwy bentref y Ffridd, ac i fyny Nant y Ffridd—un o'r cymoedd mwyaf tlws yn yr holl wlad, ac yn enwedig felly yr adeg honno, pan y llenwid pob ochr gan goedwigoedd byth-