Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyrdd o frig y bryn a'r graig, hyd at fin y gornant yn y gwaelod. Daeth y Seiat, ac yr oedd brodyr o Landegla yno hefyd, a gwelais eu bod am roddi "galwad

galwad" i mi. Teimlad go ryfedd i fyfyriwr yw gweled "galwad" yn torri i'r golwg ar y gorwel. Dwywaith, hynny yw, dau Sul oeddwn wedi bregethu yno. Awgrymais iddynt aros ychydig, er mwyn i mi ymweled â hwy unwaith yn ychwanegol ac mai dim ond dwy flynedd oeddwn wedi fod yn y Coleg. Ond yr oedd arnynt ofn i rywrai eraill gael y blaen arnynt, meddent hwy. Rhoddais fy nghyfeiriad am y pythefnos nesaf i Mr. Wm. Roberts yr ysgrifennydd. Ymaith a mi i Faldwyn, a chefais daith nodedig iawn mewn mwy nag un ystyr. Pregethu i bedwar ar noson waith ym Mhenycoed, a chael croeso mawr yn y Ddraenen Ddu. Cael fy ngwrthod ymron yn hollol yn Llanidloes dim oedfa, na llety. Bu'r gweinidog yn angharedig er yn foneddigaidd, ac un o'r diaconiaid yn angharedig ac yn anfoneddigaidd. Ysgydwais lwch Llanidloes oddiwrth fy nhraed, a dychwelais y noson honno dros y bryn i'r Ddraenen Ddu, heb gael cynnig llety, na thanysgrifiad.

Daeth yn well arnaf ym Machynlleth. Gydag ofn y cerddais at ddrws y Parch. Josiah Jones, a minnau yn casglu at Goleg yr Hen Gyfansoddiad, ac yntau yn un o arweinwyr y Cyfansoddiad Newydd! Gyraswn gyhoeddiad o'm blaen yn ôl yr arfer, a dim cyfle i neb i ateb yn ôl gan ddweud nad oedd yn gyfleus, gan nad oedd gennyf 'gyfeiriad' yn y byd. Nid oeddwn yn gwybod yn ystod yr wythnos, pa le y byddwn yn trigo yr wythnos ddilynol. Aethai fy nghyhoeddiad at y Parch. Josiah Jones, ac ni chawsai gyfle i'm hateb. Euthum at ei ddrws, yn grynedig, fel y nodais,—drws y cefn! Cefais fy arwain i'r gegin. Yn fuan daeth Mr. Jones ei hun i'r gegin ataf, a chymerodd fi i ystafell hardd, eang, yn y ffrynt, lle yr oedd y teulu yn yfed tê, a rhai ymwelwyr hefyd. Cefais eistedd wrth y bwrdd tê. Yr oedd y merched yn siriol nodedig, a gallaswn feddwl