Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn hyd heddiw. Teimlwn yn ddiolchgar iawn i'm hathrawon am eu syniadau uchel amdanaf, a minnau, yn fyfyriwr mor sâl, ac ysgolhaig mor gyffredin. Bûm mewn cryn betrusder, a dyma rai o'r pethau a drodd y fantol:—

Nid oeddwn yn iach, ag i mi gymryd fy marn fy hun am danaf fy hun! Buasai brawd i mi—William Dolfab Davies, farw ar ddiwedd ei ail flwyddyn yn y Coleg, ac yr oeddwn yn ofni mai marw yn ifanc oedd i'm rhan innau; a braidd nad oeddwn yn rhyw obeithio hynny. Wedi myned i'r ysgol at 'Jonah', awyddus oeddwn i fyned i'r coleg, cyn gynted fyth ag y medrwn, er mwyn cael marw yn fyfyriwr yng Ngholeg y Bala "—fel fy mrawd William. Yna, wedi myned i'r Coleg, a chael 'galwad', awyddus oeddwn i gael fy ordeinio' er mwyn cael marw yn weinidog! A myned â'm corff yn ôl i Gwmllynfell fel" Davies Bwlchgwyn a Llandegla

Peth arall, nid oedd dim sicrwydd yn y byd y buasai breuddwyd M. D. Jones yn dyfod i ben. Breuddwydiwr mawr oedd ef, ond ni ddeuai ei freuddwydion byth i ben. Pa sicrwydd oedd gennyf y buasai'r Athro T. Rhys yn cael ei ddewis yn Brifathro yn lle ei dad-yng-nghyfraith? A pha sicrwydd wedyn a ellid ei roddi i mi y cawswn i fy newis yn Isathro Nid oedd gennyf ddigon o hyder ynof fy hun y gallaswn ennill y B.A. Nid oedd gennyf arian ychwaith. Awgrymodd T. Rhys y buasai'r Pwyllgor yn fodlon rhoddi benthyg arian i mi. Ond nid oedd gennyf ddigon o hyder yn y Pwyllgor, nac ym mreuddwydion Michael D. Jones, nac ynof fy hun, i anturio i'r Brifysgol.

Peth arall, yr oeddwn yn llifo drosodd gan awydd pregethu a llenydda. Awydd pregethu, a chystadlu—y cylchoedd mwyaf ysblennydd yn fy ngolwg oedd pregethu ac eisteddfoda. Dyma gyfle i mi i fyned i'r weinidogaeth, a chael rhoddi fy amser i ddarllen, cyfansoddi pregethau, awdlau, a phryddestau! Pe na buasai cynllun M. D.