Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yr oedd "John Ward, Preacher" a Robert Elsmere", wedi fy nrysu. Drwy drugaredd, cefais rodd o lyfr gan un o hen chwiorydd eglwys Nebo, myfi oedd i ddewis y llyfr, a hithau i dalu. Dewisais Natural law in the Spiritual World" (Drummond). Llyfr newydd crai. Mwy diddorol i'w ddarllen na'r un nofel—wedi ei ysgrifennu'n syml, a chlir, ac yn fy neffro a'm symbylu. Mor wahanol ydoedd i'r cyrff o ddiwinyddiaeth. Gadawodd argraff annileadwy arnaf, ac erys hyd heddiw. Pregethais gryn lawer ohono, ac yr oedd yr hen ddiwinyddion yn ei fwynhau er edrych o ambell un ohonynt braidd yn syn. Bu darllen y llyfr hwn, a'i ail ddarllen, a'i fyfyrio, yn drobwynt i mi, ac onibae amdano ef, yn ogystal â rhyw bethau eraill, mae'n lled debyg y buaswn wedi dychwelyd i'r lofa.