I
DYDD ANGLADD GWYDDERIG
RHAID mynd i Brynaman heddiw. Mae'r eira'n drwch dros y llawr.
"Nid oes fyd, na rhyd, na rhiw,
Na lle rhydd, na llawr heddiw,"
fel y dywedodd Dafydd Ap Gwilym, ond rhaid myned i angladd Gwydderig. Dyna'r gair cyntaf ddywedais wedi codi'r blinds y bore hwn, ac edrych allan ar yr eira'n disgleirio dan haul Ebrill "Dyma ddydd angladd Gwydderig". Ni ellir bod adref heddiw. Mae darn mawr o fywyd yr hen fro yn myned tua'r fynwent heddiw. Taith fer gyda'r trên ac wele fi yng ngolwg Brynaman. Dacw'r Garreg Lwyd—y mynydd sy'n gwarchod y lle o bell—dacw hi dan gwrlid tawel o eira llyfn a glân. A yw'r Garreg Lwyd i gael ei chladdu heddiw Mae amdo drosti'n barod. Mae twyn y Derlwyn hefyd yn yr un wisg. Gwyddant fod un o blant anwylaf eu mynwes yn cael ei gladdu heddiw, a mynnant lechu dan yr amdo gwyn er ei fwyn.
Mae'r haul yn ddisglaer ar yr eira, yn proffwydo gwanwyn a haf. Un o blant yr haf yw Gwydderig, a mynn yr haul dywynu drwy'r eira, a bygwth tes ar yr oerfel at ei feddrod ef.
Mae'r llaid ar yr heol yn fudr iawn, mae gwyndra'r eira yn gwneud y du yn dduach. Rhaid anghofio'r llaid; gwyn a phur yw'r byd. Na sonier am falchder a rhodres, a ffug, ddydd angladd Gwydderig. Mae gwynder dihoced ei fywyd ef yn gwneud pob ffug ymddangosiad a rhodres yn llaid brwnt, rhy frwnt i'w gofio heddiw.