Prawfddarllenwyd y dudalen hon
fuasai treulio tridiau ar y llwyfan—gwell oedd ganddo'r gongl unig yn y babell, a gwell na hynny oedd darllen ei hanes yn ei gongl gartref. Cymdeithasai ef ag ysbryd Eisteddfod ar lechwedd y mynydd, a byddai'n gwybod ei hanes yn well na llawer un dreuliodd yr wythnos yn y babell.
Mab llenyddiaeth werinol ac Eisteddfodol Cymru. Carodd gynghanedd ac englyn â chariad cryf cyson. Ymhyfrydodd yn eu cwmni. Bu'r gair direidus ar ei wefus yn aml, a rhaid i'r gynghanedd weithiau gael cellwair—dyna ei ffordd hi o roddi mynegiad i ambell dro o'r daith. Ond gŵyr y rhai a welsant ei galon fod dyfnder glân yn gorwedd dan y gair direidus, a bod cywirdeb a phurdeb dan y cellwair diwenwyn.