Cyfyd hyn yn hollol deg o'r amgylchiadau, eithr wele un o groesau'r byddar, ac un o freintiau'r dall. [b] Oblegid hyn, tuedda'r byddar i fod yn ddrwgdybus, a'r dall yn rhadlon. Gŵyr y byddar fod y cwmni o angenrheidrwydd yn siarad rhywbeth am dano. Gŵyr iddynt ddechrau drwy i'r naill egluro i'r llall nad oedd yn clywed, ac ebai'r cyfaill, "wel dyna anffawd". Pa beth ddywedwyd wedyn Ceisia yntau ddyfalu cwrs y siarad ymhellach, a'r cydymdeimlad ofer, a thuedda i fynd yn amheus o bob gwên a chwerthiniad. Rhaid i'r byddar ofalu am drwytho ei ysbryd yn gyson mewn tiriondeb a thynerwch, neu fe â cymdeithas yn beth poenus iddo. [c] Tuedda'r byddar i gadw draw o bob cymdeithas. Gan ei fod yn analluog i ddilyn cwrs ymddiddan, a chan nad yw yn hoffi bod cyfeillion yn gorfod gwaeddi arno, gwell ganddo aros o'r neilltu. Bum yn lletya mewn tŷ yn ddiweddar, lle'r oedd gŵr y tŷ yn drwm ei glyw. Ai i'w waith bob dydd neu bob nos, fel y digwyddai, a chan mai mewn tŷ ingin" y gweithiai, clywai yno, ac yr oedd yn hapus yn y sŵn.
Ond wedi dod adref, ni chymdeithasai nemor ddim â neb, ag eithrio ei deulu a chyfeillion agos. Gofynnodd ei briod yn garedig i mi am ei esgusodi, ac felly fu; ni chefais air ag ef nag yntau â minnau.
Yr ydych yn gofyn hynt cymydog yn y bore, ac nid yw yn eich ateb, a'r cyfaill yn mynd heibio'n swrth. Nid oes neb am siarad â chwi, namyn ysgwyd pen. Eithr wedi cryn amser o gam-esbonio, deuir i ddeall bod y cyfeillion yn eich ateb, ac mai ynoch chwi y mae'r diffyg.
Nid rhyfedd, felly, fod y dall yn fwy calonnog a siriol am ei fod yn alluog i gymdeithasu â'i frodyr, a gwrando sŵn a miwsig natur. Os na wêl y goedwig, clyw gân yr adar a sibrwd awel yn y dail. Os na wêl wynebau ei gyfeillion, clyw eu llais, a gall ddelweddu'r wyneb yn ei feddwl. Pwy mor siriol bob amser, ac mor ddifyr yn ei gwmni â'r diweddar annwyl Puleston Jones. Dywed meddygon bod sirioldeb fel rheol yn dilyn dallineb, a