wedi tybio bod y bysedd ar y pitch pine, yn gwneud sŵn mawr, mewn lle tawel. Wyddwn i ddim. Bu cyfaill yn ddigon caredig i'm hysbysu—dim rhagor o chwarae piano ar y sêt. Disgyna'r llwy yn rhy drwm yn y cwpan te a'r gyllell a'r fforc ar y plât ciniaw. Ceir tipyn o orchestra gyda'r prydau bwyd fel rheol. Caiff yr holl fwrdd ddifyrrwch weithiau wrth eu clywed yn tincian. Fel y mae'r cysgod yn trymhau, a sŵn yn cilio draw, collir cân adar, collir sŵn y plant ar yr heol, a sŵn cerbydau; ond y mae'n syndod fel y tyr ambell air fel saeth o'r distawrwydd. Fe glyw dyn ei enw ei hun, mewn cwmni, heb ddeall yr un gair oedd o'i flaen nac ar ei ôl: y mae fel pe bai rhyw glust fewnol, sensitif, a digon o hunan ynddi i glywed y gair hwnnw. Dylid felly faddau i'r byddar, os y gofyn weithiau i'r cwmni" pa beth wetsoch chi nawr: Diolch hefyd y gellir clywed ambell enw arall. 'Roeddwn yn ddiweddar mewn oedfa yn Llundain, yn gwrando Dr. J. D. Jones; eisteddais ar ei gyfer yn y sedd fawr yn King's Cross, ond ni ddeallais y testun, na dim o'r bregeth. Teimlwn fod yno ysbryd rhagorol, ond methwn a dal yr un gair. Ond yn sydyn, fel hollt mellten drwy'r cwmwl, dyma un ymadrodd yn dod, yn hollol glir a gloyw, ac mor hawddgar oedd wyneb y pregethwr wrth ei barablu, Build on Jesus Christ"! Cefais innau gyda'r gair hwn ddigon o ymborth i'm henaid i orffen yr oedfa mewn cysegr mwyn. Ai'r glust fewnol fu'n foddion i deneuo'r allanol am eiliad i wrando'r gwefusau pêr yn parablu
Build on Jesus Christ".
Yn un o ardaloedd gwledig Meirion yr oedd, ac y mae eto mi dybiaf, hen chwaer yn byw yn nhŷ'r capel. Mae'r tŷ dan y capel, ac y mae hithau yn fyddar. Anodd iawn cario ymlaen ymddiddan â hi, ond fe glyw yr harmonium bach yn y capel yn y fan. Daeth yno rywrai i chwarae allan o amser ryw dro, gan dybio na fuasai yr hen chwaer yn clywed, ond yr oedd hi i fyny ar fyr o dro yn disgyblu. Cred llawer oblegyd hyn nad yw hi mor fyddar ag y